Bad achub Cei Newydd, Ceredigion (Llun: RNLI)
Mae deiseb ar-lein bron â chyrraedd ei tharged o 6,000 o lofnodion wrth iddi alw am gynnal y gwasanaeth bad achub “bob tywydd” yng Ngheredigion.
Yn 2020 fe fydd angen adnewyddu bad achub yr RNLI yng Nghei Newydd, ond y bwriad yw israddio’r bad achub presennol a chyflwyno bad achub “gyda’r glannau” yn unig.
Ar hyn o bryd mae bad achub mawr “bob tywydd” yn gweithredu yno, ond ni fydd y bad achub llai yn gallu lansio mewn amodau mwy difrifol.
Am hynny mae’r ddeiseb yn galw ar yr RNLI i gyflwyno bad achub “bob tywydd” i’r orsaf yng Nghei Newydd a fydd yn gwasanaethu holl arfordir Bae Ceredigion.
Bad achub ‘bob tywydd’
Mae’r bad achub presennol yn gyfrifol am ardaloedd o gwmpas Aberteifi, Aberporth, Tresaith, Llangrannog, Aberaeron, Llanon ac Aberystwyth.
Ar ôl 2020 byddai’r bad achub “bob tywydd” agosaf 70 milltir i ffwrdd yn Y Bermo, neu yn Abergwaun ac felly’n cymryd tuag awr a chwarter i gyrraedd rhannau o Fae Ceredigion.
Mae teulu lleol wedi mynegi pryder am hyn gan gynnwys Huw Williams sy’n aelod o’r criw yng Nghei Newydd gan gynnwys ei fab 8 oed, Steffan Williams, sy’n aelod o Glwb Achub Bywydau o’r Môr Crannog.
Esboniodd y bachgen 8 oed ei fod wedi achub tri aelod o’r cyhoedd o’r creigiau ger gorsaf bad achub Cei Newydd, Ceredigion dros haf.
Esboniodd ei fod wedi sylwi ar bobol ar y creigiau ar Awst 29 yn ceisio cyrraedd y traeth, a thro arall ar Fedi 1 gwelodd griw o fechgyn yn chwibanu am help mewn llanw uchel.