Tim Hodgins, chwith, ac Aled Gwyn Jones ger Capel Coffa William Williams, Pantycelyn (Llun: Aled Job)
Bydd deiseb yn galw am goffau tri chanmlwyddiant geni’r emynydd William Williams Pantycelyn yn cael ei chyflwyno i Senedd Cymru’r wythnos hon.
Bydd y ddeiseb yn cau heddiw (dydd Llun, Medi 11) a hyd yma mae 1,500 wedi ei llofnodi ar-lein ac ar bapur.
Mae nifer yn ystyried William Williams Pantycelyn, fel un o emynwyr enwocaf Cymru, ac mae hefyd yn adnabyddus am ei weithiau llenyddol amrywiol.
“Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei gyfraniad anferthol i’n cenedl a galwn ar y Llywodraeth i drefnu dathliad priodol,” meddai’r ddeiseb.
Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau’r Senedd am 12.30yh ddydd Mercher, Medi 13.
Taith i Gilycwm
Er mwyn nodi diwedd eu hymgyrch mi wnaeth sefydlwyr y ddeiseb – Tim Hodgins o Bort Talbot, Aled Gwyn Job o Gaernarfon, a Dafydd Williams o Gaerdydd – gynnal taith arbennig ddydd Sadwrn.
Cerddodd y triawd o Lanymddyfri, ardal enedigol William Williams, i Gilycwm ac yn ôl. Yng Nghilycwm mae eglwys Tŷ Newydd, sef yr eglwys lle’r oedd William Williams yn aelod ynddi.
Maen nhw’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn coffau Pantycelyn trwy gomisiynu darn o gelf arloesol yn Llanymddyfri i nodi 300 mlwyddiant ei eni eleni.