Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r ergyd farwol i gynllun dadleuol o godi Cylch Haearn ger Castell y Fflint.

Cafodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ei orfodi i ohirio codi’r cerflun £395,000 ar ddiwedd mis Gorffennaf yn dilyn ymateb chwyrn, gyda miloedd o bobol yn gwrthwynebu.

Mae enw’r cerflun yn cyfeirio at gyfres o gestyll cafodd eu hadeiladu gan y brenin, Edward y Cyntaf, i ormesu’r Cymry – Castell y Fflint oedd y cyntaf o’r cestyll yma.

Heddiw, mewn datganiad ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint, mae Ken Skates bellach yn dweud na fydd y cynllun yn gweld golau dydd o gwbwl a’i fod yn cydnabod bod y cerflun wedi “rhannu barn”.

Er hynny, dywed y bydd gwaith ar Gastell Fflint yn parhau ac y gallai darn o gelf arall fod yn rhan o hwnnw.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys canolfan defnydd cymysg i ymwelwyr, cerddwyr a beicwyr a mudiadau lleol fel yr RNLI a chlybiau rygbi a phêl-droed lleol. 

Datganiad Ken Skates

“Rydyn ni’n cydnabod bod y cynnig ar gyfer cerflun y Cylch Haearn wedi rhannu barn ac yn dilyn cyfarfodydd hynod adeiladol a chynhyrchiol â rhanddeiliaid lleol, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r dyluniad dan sylw,” meddai Ken Skates.

“Byddwn yn defnyddio’r arian oedd wedi’i neilltuo ar gyfer y gwaith celf i gynnal yr uwchgynllun ehangach ar gyfer y blaendraeth [ger y Castell], yn unol â barn pobol leol.

“Bydd hynny’n cynnwys buddsoddi cyfalaf mewn nifer o brosiectau yn yr ardal a chynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gynyddu dealltwriaeth o hanes y Castell ac arwyddocâd y blaendraeth.”