Carwyn Jones (Llun: PA)
Fe ddylai Cymru gael cwota penodol ar gyfer mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd, os fydd eu niferoedd yn cael eu cyfyngu yn dilyn Brexit – dyna ddadl Llywodraeth Cymru mewn papur sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Iau).
Mae’r papur yn argymell sut system fewnfudo fyddai orau wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb.
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, am weld sustem fyddai’n caniatáu i weithwyr sydd â swyddi neu sy’n debygol o gael swydd yn gyflym, i fedru dod i’r wlad.
Pryder Llywodraeth Cymru yw y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig osod uchafswm ar y niferoedd sy’n cael dod i’r wlad. Yn yr achos hynny mi fyddai gweinidogion Cymru yn galw am gwota.
Daw’r cyhoeddiad yn sgil adroddiadau am bapur drafft gan y Swyddfa Gartref, sydd yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gwtogi niferoedd mewnfudwyr sgiliau isel o Ewrop.
“Addas i Gymru”
“Mae’n hanfodol wedi Brexit, bod y sustem mewnfudo rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn un sydd yn addas i Gymru, ac i bob rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai Carwyn Jones.
“Rydym yn cydnabod bod llawer o bobol â phryderon ynglŷn ag ehangder a chyflymder mewnfudo ac rydym am weld rheolaeth bellach dros hyn.”
“Dyna pam rydym ni yn cynnig sustem deg fyddai’n sicrhau nad yw mewnfudo i’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol yn gysylltiedig â chyflogaeth.”