Tractor yn symud car o faes parcio Gwyl Rhif 6 y llynedd (Llun: golwg360)
Yn dilyn glaw trwm y llynedd, mae trefnwyr Gŵyl Rhif 6 wedi symud y prif faes parcio i dir fferm saith milltir o bentref Portmeirion.
Bydd ymwelwyr bellach yn gorfod parcio ar fferm Llwyn Mafon Uchaf, ger Dolbenmaen, a dywed y trefnwyr ei bod hi’n chwarter awr o daith i gyrraedd yr ŵyl.
Bydd bysiau gwennol yn cario ymwelwyr i bentref Portmeirion o’r safle newydd sydd wedi symud o faes parcio Clwb Pêl-droed Porthmadog.
Y llynedd, fe arweiniodd y tywydd garw at lifogydd yn y maes parcio hwnnw – roedd cannoedd o geir wedi’u difrodi ac yn sownd yn y dŵr a’r mwd am ddyddiau.
“Cwbwl gynaladwy”
“Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein cartref Parcio a Theithio yn gwbwl gynaliadwy tuag at dywydd gwael, pe baen nhw’n codi,” meddai llefarydd ar ran Gŵyl Rhif 6.
“Ar ôl misoedd o ymchwilio lleoliadau amrywiol mewn ardaloedd ger Portmeirion, mae ein gwasanaeth Parcio a Theithio wedi cael ei adleoli i fferm weithredol o’r enw ‘Llwyn Mafon Uchaf’.
“Mae’r lleoliad newydd ar dir uchel, sydd wedi’i ddraenio’n dda ac rydym wedi gweithio’n agos gyda pherchnogion y safle newydd i sicrhau bod cyfleusterau’r gwasanaeth Parcio a Theithio hyd gorau eu gallu.”
Mae disgwyl glaw trwm ym Mhortmeirion y penwythnos hwn ond dydy’r ŵyl heb gynnig sylw ar hynny.