Dynes fydd yn cael ei phenodi’n Ddirprwy Arweinydd cyntaf Llafur Cymru.
Mae’r swydd newydd gael ei chreu ac yn ôl y Farwnes Anita Gale, llefarydd menywod a chydraddoldeb y blaid yn Nhŷ ‘r Arglwyddi, mae angen mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ar frig y blaid.
Bydd y dirprwy arweinydd newydd yn cael ei hethol yng nghynhadledd y blaid ym mis Ebrill.
Ar hyn o bryd, dim ond un o bob pedwar o arweinwyr cynghorau Cymru sy’n fenyw.
Dywedodd y Farwnes Gale wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales fod “problem fawr” gan bob plaid wrth ethol menywod i’r prif swyddi.
Bydd rheolau’r etholiad yn cael eu pennu yn ystod y gynhadledd wanwyn ac fe allai’r dirprwy arweinydd newydd fod yn Aelod Cynulliad, yn Aelod Seneddol neu’n gynghorydd.
Ffrae tros restrau menywod-yn-unig
Yn 2005, fe achosodd rhestr menywod-yn-unig ffrae ym Mlaenau Gwent wrth i Peter Law adael y blaid ac ennill etholiad cyffredinol fel aelod seneddol annibynnol.
Fe drechodd Maggie Jones, oedd wedi cael ei dewis fel ymgeisydd oddi ar restr o fenywod yn unig.
Mae’r polisi hwnnw’n bod hyd heddiw.
Mae Huw Lewis a Peter Hain ymhlith y rhai eraill sydd wedi cael eu disodli gan fenyw oddi ar restr menywod-yn-unig.