Cafodd mwy o bobol o wledydd Prydain eu harestio yn Sbaen nag unrhyw wlad arall rhwng 2015 a 2017.

Yn ôl ffigurau a gafodd eu cyhoeddi’n dilyn cais rhyddid gwybodaeth, fe ddaeth i’r amlwg fod y nifer fwyaf o bobol wedi’u harestio yn Alicante – 655.

Cafodd cyfanswm o 2,590 o bobol o wledydd Prydain eu harestio yn Sbaen yn y cyfnod dan sylw.

Yr Unol Daleithiau sy’n ail ar y rhestr (2,045), a’r Emiradau Arabaidd Unedig (809) yn drydydd.

Ffrainc (489) sy’n bedwerydd a Gwlad Thai (462) yn bumed.

Cafodd 524 o bobol eu harestio yn Dubai, 454 yn Bangkok, 445 ym Miami a 441 ym Malaga.