Golwg o bell oi'r broblem (Llun Cyngor Castell-nedd Port Talbot)
Mae cynghorydd lleol wedi dweud wrth golwg360 y dylai Llywodraeth Cymru gynnig cymorth ariannol i drigolion yn Ystalyfera sydd wedi’u heffeithio gan gyfres o dirlithriadau.

“Pan fydd sefyllfa fel hyn yn digwydd, mae angen mwy o adnoddau ar gynghorau lleol,” meddai Alun Llewelyn, cynghorydd Plaid Cymruy tros yr ardal.

“Mae unrhyw un awdurdod yn mynd i ffeindio fe’n anodd i ymdopi â sefyllfa lle mae yna ddirywiadau eang.”

Y newyddion diweddara’ yw y gallai’r peryg o dirlithriadau effeithio ar hyd at 150 o dai, ar ben y deg sydd wedi gorfod cael eu gwagio eisoes.

Yn ôl datganiad tros nos, mae’n ymddangos y gallai fod angen dymchwel y rheiny gan fod arbenigwyr wedi methu â dod o hyd i ffyrdd o sefydlogi’r tir yn Heol Gyfyng, Ystalyfera.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi addo “adroddiad llawn” ymhen pythefnos, pan fydd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.

‘Goblygiadau ehangach’

“Dw i’n credu y dylai fod mwy o gefnogaeth mewn achos fel hyn gan Lywodraeth Cymru,” meddai Alun Llewelyn.

Ond dywedodd mai’r flaenoriaeth yn y tymor byr yw “pa gefnogaeth sydd ar gael i’r teuluoedd sydd wedi gorfod symud ma’s o’r tai sydd wedi cael eu heffeithio dros yr wythnosau diwetha’.”

Dywedodd fod cynlluniau ar y gweill heddiw i ddosbarthu gwybodaeth i drigolion lleol cyn y cyfarfod ar Fedi 7.

“Cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru yw’r ateb amlwg,” meddai, “neu unrhyw fesurau sy’n gallu helpu o ran diogelwch.”

Tirlithriadau – y cefndir

Mae ardal Pant Teg yn Ystalyfera yn rhan o gylch ehangach yng Nghwm Tawe lle mae pryder am dirlithriadau.

Ers 1897, mae cyfanswm o 26 o dirlithriadau wedi’u cofnodi gyda’r rhai mwyaf diweddar ym mis Chwefror a Mehefin eleni.

Yn ôl datganiad y Cyngor, mae cynnydd wedi bod yn y tirlithriadau yn ddiweddar gyda phedwar achos yn y deuddeg mis diwethaf.

Mae lle i gredu bod cysylltiad rhyngddynt â’r ddaeareg leol, diwydiannau’r ardal a chyfnod hir o law trwm.