Adeiladau'r Llys yn Luxembourg (Tercer CC0 1.0)
Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain wedi ceisio tawelu ofnau Brexitwyr wrth fynnu na fydd gan y Llys Cyfiawnder Ewropeaidd unrhyw hawl i setlo dadleuon cyfreithiol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Ond fe gyfaddefodd y Gweindog Cyfiawnder, Dominic Raab, y byddai’n rhaid cadw “hanner-llygad” ar gyfreithiau’r Undeb ac efallai cael trefn newydd i setlo dadleuon.

Fe allai hynny olygu bod y Deyrnas Unedig a’r Undeb yn dewis un arbenigwr yr un a’r ddwy ochr yn cytuno ar drydydd.

Ond roedd Dominic Raab yn gwrthod yr awgrym y gallai Llywodraeth Prydain wanhau eu haddewid ynglŷn â’r Llys Cyfiawnder.

Fyddai hi ddim yn addas i’r Llys benderfynu ar ddadleuon rhwng y ddwy ochr, meddai, ac mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi papur swyddogol yn cadarnhau hyn yn ddiweddarach heddiw.