Undeb Unite (Llun: Chemical Engineer CC0 1.0)
Mae gweithwyr tai cymunedol yng Nghwmbrân yn dechrau ar bump diwrnod o streic heddiw, er mwyn protestio yn erbyn toriad o £3,000 yn eu cyflogau.
Cyn y toriad mi roedd gweithwyr cynorthwyol Tai Cymunedol Bron Afon yn derbyn cyflog o £23,572 y flwyddyn, ond bellach maen nhw’n derbyn £20,416.
Dyma’r brotest ddiweddaraf gan weithwyr Bron Afon ers i’r ymgyrch ddechrau ar Orffennaf 13. Mae’r gweithwyr eisoes wedi cynnal pedwar sesiwn o ymatal rhag gweithio.
Gwnaeth dau wleidydd sy’n cynrychioli’r ardal, yr Aelod Seneddol, Nick Thomas-Symonds, a’r Aelod Cynulliad, Lynne Neagle, ymuno â’r gweithwyr yn ystod streic y mis diwethaf.
Ymddygiad “ofnadwy”
“Dw i erioed wedi dod ar draws corff sydd yn ymddwyn mewn modd mor ofnadwy tuag at weithwyr ei hun,” meddai’r Trefnydd Unsain, Rosie Lewis.
“Mae cymryd gwerth £15,000 oddi wrth staff dros y pum mlynedd nesaf wedi arwain at gynnydd mewn staff yn gadael gwaith yn sâl.”
“Dyw Bron Afon ddim yn gwrando ar ei staff; defnyddwyr ei gwasanaethau; na’r Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad seneddol wnaeth ymuno â ni wrth y llinell biced… Mae pawb eisiau i Bron Afon ddod â’r anghydfod yma i ben yn gyflym, trwy dalu eu gweithwyr cynorthwyol yn deg.”