Traeth Llanussyllt (Saundersfoot), Sir Benfro (Llun: R K Lucas)
Mae un o draethau gorau Cymru yn ne Sir Benfro wedi cael ei rhoi ar y farchnad am £250,000.
Mae traeth Llanussyllt (Saundersfoot) ger Dinbych y Pysgod wedi ennill statws rhyngwladol y Faner Las am safon y dŵr, glendid, diogelwch a chyfleusterau.
Ar wefan y cwmni arwerthu, R K Lucas, mae’r traeth 2.2 erw yn cael ei ddisgrifio fel “cyfle prin ac unigryw” i brynu traeth sy’n cynnig “hawliau masnachu unigryw a phroffidiol iawn.”
Mae’n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro gyda thri llwybr mynediad ato.
Mae’n cael ei werthu gan y perchennog presennol, Adrian Alford, sydd wedi bod yn berchen arno ers deng mlynedd gyda’r cwmni arwerthu’n derbyn ceisiadau tendro tan Fedi 14.