Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg (Llun: Golwg360)
Dylai bod yr iaith Gymraeg yn cael ei thrin fel mater “canolog” i wasanaeth iechyd meddwl Cymru, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Daw sylwadau Meri Huws yn dilyn trafodaeth ar faes yr Eisteddfod ynglŷn â’r angen i fynd i’r afael â diffyg darpariaeth Gymraeg yng ngwasanaeth iechyd meddwl Cymru.
Yn ôl ystadegau a gafodd eu cyhoeddi yn ddiweddar, mae canran y staff yn y maes iechyd meddwl sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel iawn – gyda’r canran mor isel â 1.9% mewn rhai byrddau iechyd.
“Dw i’n credu bod angen i ni fynd at wleidyddion Cymru a dweud ‘mae gyda chi sialens fan hyn,’” meddai Meri Huws wrth golwg360. “Chi sydd yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd. Chi sydd yn rhedeg y gwasanaeth iechyd meddwl. Mae’n rhaid i chi ystyried y Gymraeg, nid yn fater eilradd ond yn ganolog i’r gwasanaeth.
“Rydym ni wedi clywed heddiw am hanes pobol sydd wedi mynd trwy’r gyfundrefn ac wedi derbyn triniaeth. Ac rydym ni wedi clywed, dro ar ôl tro, cymaint yn well oedd y driniaeth trwy eu mamiaith. Os ydych chi’n fregus ac yn teimlo’n isel ac yn ceisio mynegi hynny trwy ail iaith – dyw e ddim yn dderbyniol. Ni ddylai fod hynny yn digwydd yng Nghymru.”
Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn mynd ati yn awr i bwyso ar y Cynulliad i gyflwyno camau er mwyn gallu gosod safonau iaith Gymraeg o fewn y sector iechyd.
“Cryfhau hyder”
Hefyd yn cymryd rhan yn y drafodaeth roedd aelod bwrdd Mind Cymru, Marian Wyn Jones, wnaeth nodi bod angen “cryfhau hyder” sgiliau iaith, gweithwyr yn y maes iechyd meddwl.
“Yn sicr mae ’na brinder ymarferwyr iechyd meddwl drwyddi draw ym Mhrydain ond yn y Gymraeg mae’n ddiddorol nodi bod yna lai o siaradwyr Cymraeg yn gweithio ym maes iechyd meddwl bron nag yn unrhyw faes arall,” meddai wrth golwg360.
“Felly mae angen cryfhau apêl yr yrfa yma, ac mae angen cryfhau hyder pobol sydd yn gweithio yn y maes i gynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ond mae hefyd angen cynyddu’r nifer sy’n hyfforddi i fod yn seicolegwyr ac yn feddygon. Ac i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu trwytho.”