David Crystal (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae un o academyddion mwyaf ar ieithoedd y byd wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n “berffaith bosib” i gyflawni’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn ôl David Crystal, mae strategaeth iaith Llywodraeth Cymru gafodd ei lansio fis diwethaf yn “berffaith ymarferol” ac mae’n cymharu “cynnydd sylweddol” rhai o ieithoedd lleiafrifol eraill y byd.
Er nad yw’n sôn am enghreifftiau o greu miliwn o siaradwyr, dywed am “fywyd newydd” rhai o’r ieithoedd oedd mewn perygl yn Affrica ac Awstralia gan ddweud iddynt lwyddo o ganlyniad i “ymdrech aruthrol i’w diogelu.”
“Mae sefyllfa debyg yn Israel gyda’r Hebraeg oedd bron ddim yn bodoli ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Ond erbyn heddiw mae’n cael ei siarad gan filiynau,” meddai wrth golwg360.
“Mae nifer o enghreifftiau tebyg o gwmpas y byd, a gyda’r egni a’r seiliau cywir i roi’r iaith oddi fewn i economi a seicoleg pobol, fe allwch chi gael y math yna o lwyddiant.”
Newid agweddau
Er hyn, dywed fod miliwn yn rhif “sydd wedi’i dynnu o’r awyr” a bod angen tipyn o gynllunio.
“Mae’n mynd i fod yn dipyn o ddatblygiad polisi wrth gwrs, ac mae’n mynd i gostio arian, mae angen newid agweddau a chreu busnesau i gadw pobol mewn swyddi da yng Nghymru,” meddai.
Cyfeiriodd at sefyllfa’r Llydaweg oedd yn cael ei siarad gan filiwn o bobol ar droad y ganrif ddiwethaf, ond gan rai miloedd yn unig bellach.
“Mae’r un mor bosib i bethau fynd y ffordd arall os nad yw’r agweddau, y swyddi a’r pethau eraill yno i gefnogi’r iaith.”
Stori lwyddiant y Gymraeg
Mae’r arbenigwr yn hen gyfarwydd â theithio o gwmpas y byd i astudio ieithoedd a dywed fod pobol o ieithoedd lleiafrifol yn “edrych ar y Gymraeg fel stori llwyddiant.”
“Mae rhywbeth yn debyg i 7,000 o ieithoedd yn y byd ar hyn o bryd, ac mae hanner ohonyn nhw mewn peryg gwirioneddol gyda rhai’n credu y gallan nhw farw yn ystod y ganrif hon.”
“Roedd y Gymraeg yn rhan o’r grŵp hwnnw ar un adeg, ond mae’r tebygolrwydd y bydd y Gymraeg yn diflannu’n awr yn y cyfnod hwnnw ddim yn debygol o gwbwl,” meddai.
Cyfeiriodd at “bryder difrifol” y Wyddeleg a’r Llydaweg gan ddweud fod y Gymraeg wedi “achub y blaen” wrth ymgyrchu am ddeddf, sianel deledu a hawliau i’r iaith.
“Doedd hynny ddim yn rhywbeth a ddigwyddodd yn Iwerddon na Llydaw tan yn ddiweddar – ac efallai’n rhy hwyr i’r cymunedau hynny. Ond yng Nghymru fe gawson ni’r stori’n iawn yn ôl yn yr 1970au diolch i Gwynfor [Evans] a’r gweddill,” ychwanegodd.
“Mae’r Gymraeg wrth gwrs yn un o straeon llwyddiant yr ugeinfed ganrif – nifer fach o ieithoedd sydd wedi llwyddo i gael yr un raddfa o dyfiant â’r Gymraeg.”