BLOG: Aled Gwyn Job yn rhoi ei argraffiadau o gyfarfod cynhyrfus o Gyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ddoe
Fel Cenedl Anghydffurfiol y daeth y Gymru fodern i fodolaeth i bob pwrpas.
Arweiniodd y Diwygiadau Methodistaidd yn y 18ed ganrif at ddeffroadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pell-gyrrhaeddol yn eu tro. Gan sefydlu’r syniad sylfaenol hwnnw fod gan Gymru ei meddwl ei hun ar bethau, oedd yn amlach na pheidio yn tynnu’n groes i’r meddylfryd Prydeinig. Mae’r gred honno wedi ei chynnal a’i hanwylo gan genhedlaethau o Gymry ar hyd y blynyddoedd hyd heddiw.
Ond tybed ai fel cenedl gydymffurfiol y dylid meddwl am y Gymru gyfoes mewn cymaint o ffyrdd gwahanol erbyn hyn? Boed hynny ar ffurf y gred hynod boblogaidd hon nad oes gan ffydd ddim oll i’w ddweud wrthym yn y byd cyfoes, neu’r dybiaeth gyffredinol nad oes llawer iawn y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd i newid trefn sylfaenol ein cymdeithas yma neu hyd yn oed o ran yr obsesiwn gyda thechnoleg newydd o bob math – mae cydymffurfio bellach fel petai wedi ein meddiannu ni gorff ac enaid.
Ac mi roedd yr ysbryd cydymffurfiol hwn yn sicr ar waith ddoe yn Siambr Cyngor Sir Gwynedd, wrth i gynghorwyr y sir drafod y Cynllun Datblygu newydd (sy’n cyfateb i 8,000 o dai newydd i Wynedd a Môn rhwng 2011 a 2026.)
Nid yn gymaint yng nghanlyniad y bleidlais ei hun, gan fod 30 o gynghorwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi pleidleisio yn ei erbyn, gan godi cwestiwn go fawr am hyfywedd y cynllun ar ei ffurf bresennol mewn gwirionedd.
Ond roedd y cydymffurfiad yn hytrach i’w weld yn y dadleuon craidd a ddefnyddiwyd gan y rhai hynny oedd o blaid y cynllun datblygu: aelodau cabinet y cyngor sir gan fwyaf.
Er y proffesu taer o blaid y Gymraeg a’i ffyniant hi oedd yn rhagflaenu bron pob un araith ganddynt: chafwyd yr un ddadl yn sgil hyny oedd yn argyhoeddi dyn y byddai’r cynllun datblygu yn gwneud LLES i’r Gymraeg yn y sir. Roeddwn yn disgwyl i ambell un geisio’n hargyhoeddi y byddai’r tai newydd yn allweddol, wrth er enghraifft, ddenu Cymry alltud yn ôl i Wynedd i gychwyn busnesau ac ati, ac y byddai hynny yn ei dro yn helpu tuag at gyflawni un o bolisiau strategol pwysicaf y Cyngor Sir, sef codi canran siaradwyr Cymraeg y sir o 65% i 70% erbyn 2021. Ond na, chafwyd dim ymdrech o gwbl i geisio cyflwyno narratif i’r perwyl hwn.
Neges greiddiol
Y neges greiddiol a gafwyd ganddyn nhw yn ei hanfod oedd: ylwch bois – does gynno ni ddim dewis ond cydymffurfio hefo gofynion yr Arolygiaeth Gynllunio fan hyn.
Codwyd sawl bwgan gan aelodau’r Cabinet yn ystod y trafod, megis y byddai gwrthod y cynllun datblygu yn golygu y gallai Llywodraeth Lafur Cymru ei berchnogi’n llwyr a’i weithredu o Gaerdydd, neu hyd yn oed ddanfon comisiynwyr i mewn i redeg Cyngor Gwynedd yn uniongyrchol. Soniwyd hefyd sut yr oedd datblygwyr yn llyfu’u gweflau wrth feddwl am sefyllfa lle na fyddai cynllun datblygu yn ei le yn y sir.
Ac fe roddwyd pwys mawr ar farn wrthrychol yr Arolygydd Cynllunio ynghylch “cadernid” y cynllun: heb unrhyw synnwyr o ba mor hurt oedd hyn yn swnio o gofio eu bod yn sôn am Arolygydd na wyddai’r un dim am ystyr arwyddair y cyngor sef “Cadernid Gwynedd”, heb son am hanes y sir dros y canrifoedd a roddodd fodolaeth i’r arwyddair hwn.
Bron nad oedd yr aelodau cabinet a siaradodd yn y siambr pnawn ddoe yn cyflwyno’u hunain fel gweinyddwyr yn hytrach na gwleidyddion.
Hynny ydi, eu bod yn gweld eu rôl bellach fel quasi-swyddogion sydd yno i weithredu’r hyn a gaiff ei wthio arnynt yn hytrach na chofio eu bod wedi eu hethol i wleidydda dros bobl Gwynedd yn anad un peth arall.
Mae lle i ddadlau bod y system gabinet wedi hwyluso’r broses hon, gydag aelodau’r cabinet bellach yn treulio mwy o amser yn y cyngor yng nghwmni swyddogion nag ydyn nhw yng nghwmni eu cyd-gynghorwyr, a bod yr hen berthynas hyd-braich traddodiadol (a llesol) rhwng cynghorwyr a swyddogion wedi hen ddiflannu. Mae’n gŵyn gyffredin iawn gan drwch cynghorwyr o bob lliw gwleidyddol bellach eu bod hwy wedi eu hymylu’n llwyr yn y broses hon.
Ac wrth gwrs, mae gweinyddwyr wastad yn iawn. Roedd hi’n drawiadol iawn ddoe pa mor gwbl argyhoeddedig oedd Dafydd Meurig (Portffolio Cynllunio) a Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor) mai nhw oedd yn IAWN. Doedd dim gronyn o amheuaeth gan y naill na’r llall am rinweddau a rhagoriaeth y cynllun datblygu: fel pob gweinyddwr gwerth ei halen, roeddan nhw wedi llwyr berchnogi a chredu eu sbin eu hunain.
Bron oeddech chi’n teimlo mai dadlau dros eu hygrededd a’u didwylledd hwy eu hunain fel unigolion oeddan nhw yn y bôn, yn hytrach na dadlau’n wrthrychol am y cynllun ei hun. “Trystiwch ni hogia” oedd eu ple gan ddwyn i gof yr arch-berswadiwr hwnnw, y cyn Brif Weinidog Tony Blair cyn iddo fynnu ei le ar lwyfan y byd yn 2003.
Roedd hi’n eironig iawn mai aelod o’r Blaid Lafur, sef Sion Jones o Bethel a gyflwynodd un o’r areithiau gorau yn y siambr ddoe: araith oedd mewn gwirionedd yn chwa o awyr iach o’i gymharu gyda sbin y gweinyddwyr a gyfeiriwyd ato uchod. Dywedodd ei fod yn gwybod yn iawn ei fod yn mynd yn groes i ewyllys ei blaid wrth wrthwynebu’r cynllun datblygu ond bod dyfodol y Gymraeg yn bwysicach iddo na’i les gwleidyddol ei hun.
Ymhellach, fe gyflwynodd un o’r pwyntiau pwysicaf yn yr holl drafodaeth: sef y dylai’r Cyngor Sir fod wedi pwyso am sicrhau statws ieithyddol arbennig i Wynedd a Môn fel rhan o’r drefn gynllunio yng Nghymru o gofio mai dyma’r unig ddwy sir lle mae’r iaith Gymraeg yn parhau’n iaith fyw a chymunedol ar raddfa eang. Ond na, ddaeth hi ddim i feddwl y “gweinyddwyr” i geisio ymladd dros hynny.
Mae’r clefyd gweinyddu a chydymffurfio yn hytrach na gwleidydda a chwestiynu yn bla yn y Gymru gyfoes erbyn hyn. Efallai’n wir fod y duedd hon yn deillio’n ôl i gychwyn datganoli ei hun pan benderfynodd Plaid Cymru bod rhaid sefydlogi a diogelu dyfodol y Cynulliad Newydd trwy estyn pob cymorth posib i’r Blaid Lafur.
Mae’r gefnogaeth hon i Lafur a helpu Llafur i “weinyddu” Cymru wedi bod yn elfen gyson yng ngwleidyddiaeth Cymru dros y 17 mlyned diwethaf: a’r gweinyddu dof yma yn ei dro yn un o’r rhesymau pam y mae datganoli wedi profi’n gymaint o siomedigaeth.
Yn waeth na hynny, mae’r broses hon bellach wedi troi’n nodwedd genedlaethol gwaetha’r modd. Clywir byth a beunydd am “weinyddu” cynlluniau addysgol, “gweinyddu” newidiadau mewn arferion cynghorau sir, “gweinyddu” ein gwasanethau iechyd mewn amryfal ffyrdd a “gweinyddu’r” ychydig o ddatblygiadau economaidd sy’n digwydd yma. Ac mae’r nifer fawr o weinyddwyr sydd yn gorfod bod ynghwm wrth yr holl brosesau uchod yn brawf pellach o’r ffenomena hon. Mae’r holl bwyslais ar weinyddu yn ein bywyd cyfoes yn amlach na pheidio yn arwain at gydymffurfiad: dyna holl natur y bwystfil. Ac mae cydymffurfiad yn y sefyllfa sydd ohoni yn ddamniol mewn cymaint o ffyrdd.
Mae’n berffaith amlwg bellach mewn myrdd o feysydd gwahanol ym mywyd Cymru mai ysbryd anghydffurfiol newydd sydd ei angen arnom.
Pwy a’n gwaredo o glwy y Gweinyddu?!