James Corfield (llun gan Heddlu Dyfed-Powys)
Mae’r heddlu’n parhau chwilio am ffermwr ifanc o Drefaldwyn a ddiflannodd yn ystod ymweliad â’r Sioe Fawr ddechrau’r wythnos.
Roedd James Corfield, 19 oed, yn gwersylla gyda ffrindiau yn y Sioe, a chafodd ei weld ddiwethaf yn nhafarn y White Horse yn Llanfair-ym-Muallt tua hanner nos nos Lun.
Roedd wedi trefnu i gyfarfod ei deulu y diwrnod wedyn a rhoddwyd gwybod i’r heddlu yn fuan wedi 2 y prynhawn ei fod ar goll.
Mae’r heddlu’n apelio i unrhyw un a allai fod â gwybodaeth am ei symudiadau eu ffonio ar 101.
Caiff ei ddisgrifio fel dyn tal tenau 6 troedfedd 2 fodfedd, gyda gwallt brown byr. Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo crys glas Abercrombie and Fitch a jîns.
Yn helpu Heddlu Dyfed-Powys mae plismyn o heddluoedd De Cymru a Dyfnaint a Chernyw yn chwilio amdano ar y tir, ar ddŵr ac o’r awyr.