Map yn dangos y llwybr morwrol Tramwyfa'r Gogledd-Orllewin (llun parth cyhoeddus)
Mae llong torri ia o’r Ffindir wedi llwyddo i gwblhau’r daith dros yr Arctig o’r Môr Tawel i Fôr Iwerydd yn gynharach nag a wnaeth neb arall erioed.
Roedd yr MSV Nordica wedi treulio 24 diwrnod ar y môr rhwng gadael Vancouver ar 5 Gorffennaf a chyrraedd Nuuk, prifddinas yr Ynys Las, heddiw.
Mae Tramwyfa’r Gogledd-Orllewin (y Northwest Passage) wedi bod yn agor yn gynharach ac am gyfnodau hirach bob haf o ganlyniad i gynhesu byd-eang.
Mae’r record heddiw ddiwrnod ynghynt na’r dyddiad cynharaf blaenorol yn 2008.
Mae’r Dramwyfa wedi bod yn her i anturiaethwyr ar hyd y blynyddoedd, gyda’r Capten James Cook yn un o’r rhai a geisiodd yn ofer i fynd drwyddi. Yr anturiaethwr cyntaf i lwyddo oedd Roald Amundsen o Norwy yn 1906.
Mae gwyddonwyr wedi darogan y bydd y Dramwyfa yn rhydd o rew yn yr haf erbyn 2050 os pery’r tueddiadau presennol.