Cafodd tri lleidr ddedfrydau o garchar yn amrywio o bedair i chwe blynedd yn Llys y Goron Caerdydd ddoe.
Roedd y tri wedi ymosod ar swyddfa bost ym mhentref Rhydfelen ger Pontypridd ar 7 Chwefror eleni gan fygwth gweithwyr â chyllelll a dwyn tua £17,000.
Cafodd Daniel Morgan Jones, 27 oed o Ffordd Abertawe, Merthyr Tudful ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar, Jason Morris, 28 oed a heb gyfeiriad sefydlog, i bedair blynedd chwe mis, a Liam David Williams, 24 oed o Farteg, Pontypŵl i bum mlynedd a thri mis. Roedd y tri wedi pledio’n euog o ladrad.
Mae’r heddlu wedi canmol aelodau o’r cyhoedd a helpodd ddal y lladron.
“Roedd yr ymosodiad yn brofiad dychrynllyd i’r bobl yn y Swyddfa Bost ar y pryd,” meddai’r Ditectif Arolygydd Merion Collings.
“Fe wnaeth yr aelod o’r cyhoedd a daclodd y dynion ddangos dewrder mawr ac anfon neges glir iddyn nhw na fydd eu hymddygiad yn cael ei dderbyn yn ddi-her yn ein cymunedau.”