Molly Owens a'i thad Brian Owens (llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae pryder ynghylch merch fach bump oed sydd ar goll o ardal Caergybi.
Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod yn amau bod Molly Owens gyda’i thad, Brian George Owens, a oedd i fod i gael ei ddedfrydu gan Lys Ynadon Caernarfon ddoe.
Mae warant wedi cael ei gyhoeddi i’w arestio ar ôl iddo beidio ag ymddangos yn y llys.
Mae gan Molly wallt golau at ei hysgwyddau a llygaid glas, a chaiff ei thad ei ddisgrifio fel dyn 26 oed tenau 5 troedfedd 9 modfedd o dalda. Mae ganddo wallt brown byr a llygaid glas.
Meddai’r Prif Arolygydd Sharon McCairn o Heddlu Gogledd Cymru:
“Rydym yn bryderus ynglyn â lle mae Molly ac rydym yn apelio ar i unrhyw un a all fod â gwybodaeth gysylltu â ni.
“Yn yr un modd, dw i’n apelio’n uniongyrchol ar y Brian Owens gysylltu â ni i adael inni wybod ei fod o a Molly yn ddiogel a iach.”
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth nodi cyfeirnod V113559 wrth gysylltu â’r heddlu ar 101.