Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi amheuon am ddilysrwydd pleidlais gan gynghorwyr Gwynedd ynghylch Cynllun Datblygu Lleol yng Nghaernarfon ddoe.

Wedi dadlau a barhaodd drwy’r prynhawn, dim ond trwy bleidlais fwrw’r cadeirydd y cafodd y Cynllun i gymeradwyo codi bron i 8,000 o dai yng Ngwynedd a Môn ei basio.

“Mae ‘na gwestiynau am gyfreithlondeb y penderfyniad, gan na chynhaliwyd pleidlais a wnaed gan ddau gynnig dilys a wnaed gan gynghorwyr i ohirio’r penderfyniad,” meddai Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith.

Yn ystod y cyfarfod, lle’r oedd y dadlau’n danbaid ar adegau, gwrthododd cyfreithiwr y sir ganiatáu pleidlais ar gynigion i ohirio’r penderfyniad ac i ofyn i Lywodraeth Cymru am fwy o amser i drafod y cynllun.

Roedd hyn er gwaethaf y ffaith fod un o’r cynghorwyr hynny, Menna Baines, wedi tynnu sylw’r cyfarfod at gyngor cyfreithiol annibynnol a gafodd gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis. Roedd cyngor y bargyfreithiwr,  sy’n cael ei gydnabod fel un o arbenigwyr blaenaf Prydain ar gyfreithiau’n ymwneud â’r Gymraeg a ieithoedd lleiafrifol, yn datgan yn ddiamwys y byddai cynnig o’r fath yn gwbl gyfreithlon a dilys.

O dan reolau Llywodraeth Cymru, mae’n ofynnol i bob cyngor fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol o fewn wyth wythnos i’w dderbyn yn ôl gan yr Arolygiaeth Gynllunio – ond mae hawl gan gynghorau i ofyn am gael ymestyn y cyfnod.

Dadl amryw o’r cynghorwyr oedd fod ar aelodau newydd o’r Cyngor, a gafodd eu hethol ym mis Mai, angen mwy o amser i ystyried y Cynllun yn enwedig o gofio bod dros 2,000 o dudalennau o ddogfennau wedi eu paratoi arno.

Apelio ar gynghorwyr Môn

Gan y bydd yn rhaid i’r Cynllun Datblygu Lleol gael ei fabwysiadu gan y ddau Gyngor, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar gynghorwyr Môn i’w wrthod yn eu cyfarfod ddydd Llun.

“Mae’n amlwg o’r bleidlais gyfartal nad oes digon o gefnogaeth i’r cynllun fel y mae yng Ngwynedd a bod angen ail-feddwl,” meddai Menna Machreth.

“Mae’n glir bod y targedau tai sy’n cael eu gorfodi ar gynghorau lleol yn annheg ac yn anghynaladwy yn ieithyddol. Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru a chynghorau sir wrando ar lais y bobl a gweithredu er lles holl gymunedau Cymru a’r Gymraeg.

“Mae swyddogion cynghorau yn dawnsio i diwn Llywodraeth Llafur Cymru yng Nghaerdydd. Dyw’r Gymraeg a’n cymunedau ddim yn medru’r fforddio i hynny barhau.

“Mae’n bryd anfon neges i’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd bod y Gymraeg a chymunedau lleol yn bwysicach nag adeiladu mwyfwy o dai i lenwi coffrau datblygwyr mawrion.”