Mae cynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio tros fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol dadleuol ar y cyd â Môn.
Gyda deg o gynghorwyr y sir wedi cyflwyno ymddiheuriadau, pedwar yn atal eu pleidleisiau, a 30 o blaid a 30 arall yn erbyn, fe fu’n rhaid cael pleidlais y Cadeirydd i dorri’r ddadl.
Fe fydd y cynllun yn gosod fframwaith ar gyfer maes cynllunio tan 2026.
“Polisïau blaengar”
“Mae’r cynllun yr ydan ni fel Cyngor wedi ei gymeradwyo yn seiliedig ar dystiolaeth gynhwysfawr am y materion hynny sydd fwyaf pwysig i bobl leol, sef tai gan gynnwys tai fforddiadwy, gwaith ac iaith,” meddai’r Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn.
“Mae’r fframwaith yn gosod cyfres o bolisïau blaengar a fydd yn sicrhau fod datblygiadau tai yn cyfarch anghenion lleol, yn amddiffyn ein cymunedau ac yn eu galluogi i ffynnu.
“Yr her i ni rŵan fel Cyngor ydi defnyddio’r fframwaith gynllunio newydd yma i sicrhau datblygiadau lleol sy’n gynaliadwy yn ieithyddol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol tra’n darparu’r cartrefi o safon uchel sydd eu hangen ar gyfer pobol Gwynedd.”
Plaid Cymru yn rhanedig
Mae tri gwleidydd Plaid Cymru – Liz Saville Roberts, Hywel Williams a Siân Gwenllian – sydd yn cynrychioli ardaloedd yng Ngwynedd wedi ymateb i’r cyhoeddiad mewn datganiad ar y cyd.
“Rydym yn siomedig iawn bod y fframwaith cynllunio presennol ar gyfer Cymru, o dan reolaeth Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain at Gynllun Datblygu lleol sydd heb ganiatáu’r hyblygrwydd angenrheidiol i fynd i’r afael ag anghenion penodol cymunedau Môn a Gwynedd,” meddai datganiad.
“Rydym yn mynegi anfodlonrwydd â system sydd wedi ei anelu at ddatblygu cynllun sy’n canolbwyntio yn bennaf ar dai, heb ystyried goblygiadau datblygiad tai ar y seilwaith lleol (ffyrdd, ysgolion, ysbytai, yr economi) a lles cyffredinol cymunedau.”
Roedd hi’n amlwg, o’r trafod cyn y bleidlais heddiw, fod cynghorwyr Plaid Cymru wedi’u rhannu, gydag areithiau tanbaid o’r ddwy ochr.
Fe gymharodd Elwyn Edwards o’r Bala y Cynllun gydag achos Tryweryn, lle cafodd cymuned gyfan yng Nghwm Celyn ei boddi; tra bod Simon Glyn, y cynghorydd a dynnodd nyth cacwn yn ei ben ar ddechrau’r mileniwm trwy sôn am fewnfudwyr, o blaid y Cynllun – er mwyn diogelu Gwynedd rhag y datblygwyr tai.
Effaith ieithyddol
Mae’r cynllun wedi denu tipyn o wrthwynebiad gan ymgyrchwyr iaith sydd wedi nodi bod gan y cynllun goblygiadau posib i’r iaith yn yr ardal.
Mae mudiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eisoes wedi tynnu sylw at asesiad effaith iaith annibynnol sydd yn awgrymu bydd cwymp 2% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn sgil cyflwyniad y cynllun.