Fe allai Bil Brexit Llywodraeth San Steffan fynd â diwydiant bwyd a ffermio Cymru yn ôl ddegawdau, rhybuddiodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru heddiw.

Daw ei rhybudd wrth i sioe amaethyddol fwyaf Ewrop agor ei drysau yn Llanelwedd heddiw gydag ymweliad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Michael Gove.

Yn ôl Lesley Griffiths mae datganoli wedi galluogi Llywodraeth Cymru i greu polisïau ar gyfer anghenion penodol ffermwyr Cymru, gyda’u mewnbwn.

Ond fe fydd Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) yn rhoi mwy o bŵer i’r DU dros faterion fel taliadau fferm ac iechyd anifeiliaid, sydd wedi’u datganoli i Gymru ers bron i ddau ddegawd.

“Pryderus”

Meddai Lesley Griffiths: “Mae datganoli wedi ein galluogi i ni deilwra ein polisïau i ffermwyr Cymru gyda dealltwriaeth o’u hanghenion unigryw. Rwy’n bryderus y bydd y Bil Ymadael, ynghyd â’u diffyg ymgysylltu â ni i ddeall anghenion ffermwyr Cymru, yn golygu y bydd y ddealltwriaeth hon yn diflannu ac y bydd y diwydiant yng Nghymru yn camu yn ôl degawdau.

“Cafodd y safbwynt hwn ei adlewyrchu’n glir yn yr adroddiad yr wythnos diwethaf gan Bwyllgor UE Tŷ’r Cyffredin, a oedd yn rhoi cefnogaeth lawn i’n safbwynt ar lywodraethiant y DU yn y dyfodol.

“Mae cyfran uwch o ffermwyr defaid yng Nghymru na Lloegr, ac mae 90% o gig coch Cymru yn cael ei allforio i’r UE. Rydw i am sicrhau nad yw’r gefnogaeth y maen nhw’n ei chael ar hyn o bryd yn cael ei pheryglu gan Brexit.”

Taliadau fferm

Yn ol Lesley Griffiths, fel mae pethau’n sefyll, mae’r Bil yn golygu y bydd Cymru yn cael llai o bwerau a hyblygrwydd nag oedd ganddi yn yr UE.

“Byddai’n cael gwared ar allu Llywodraeth Cymru i ddehongli cyfraith yr UE a’i theilwra ar gyfer anghenion Cymru. Bydd yn rhoi mwy o bŵer i’r DU dros faterion fel taliadau fferm ac iechyd anifeiliaid, sydd wedi’u datganoli i Gymru ers bron i ddau ddegawd.”

“Diffyg ymrwymiad llwyr i gydweithio”

Fe fydd Lesley Griffiths yn cyfarfod Michael Gove heddiw a dywedodd ei bydd yn crybwyll ei phryderon.

“Byddaf yn pwysleisio bod y Bil hwn wedi diystyru datganoli’n llwyr fel y gwnaeth ei benderfyniad i ganslo dau gyfarfod nesaf gweinidogion amaethyddiaeth ac amgylchedd y DU. Mae’r cyfarfodydd hyn yn hollbwysig wrth i’r trafodaethau symud ymlaen ac mae eu canslo yn dangos diffyg ymrwymiad llwyr i gydweithio.”

“Diffyg eglurder”

Yn y cyfamser mae NFU Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod trefniadau’n parhau mewn lle ar gyfer masnach gyda gwledydd yr UE wedi Brexit.

Ar ddiwrnod agoriadol y Sioe Fawr yn Llanelwedd dywedodd llywydd yr NFU Stephen James ei bod yn “hanfodol” bod y DU yn parhau i allu masnachu gyda’r UE nes bod cytundeb masnach wedi’i gytuno rhwng y DU a’r UE.

“Mae angen i fusnesau amaethyddol gael sicrwydd er mwyn gallu cynllunio ymlaen llaw. Mae angen i ffermwyr, proseswyr a phawb sy’n gysylltiedig â’r diwydiant bwyd yng Nghymru allu gwneud penderfyniadau rŵan gyda rhyw fath o syniad pa opsiynau marchnata fydd ar gael iddyn nhw yn 2019.”

Dywedodd yr AC Llafur Eluned Morgan bod “y diffyg eglurder.. yn golygu ei bod yn annhebygol iawn y bydd ffermwyr Cymru yn gallu buddsoddi yn y dyfodol agos.”

“Gweledigaeth Gove”

Ychwanegodd: “Fe fydd hyn yn achosi ansefydlogrwydd sylweddol yn ein cymunedau cefn gwlad. Nid yw Michael Gove wedi rhoi unrhyw awgrym ei fod yn deall bod amaethyddiaeth yn fater datganoledig a bod yn rhaid parchu barn Llywodraeth Cymru.”

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) hefyd wedi mynegi pryder am weledigaeth Michael Gove. Dywedodd Llywydd yr Undeb Glyn Roberts bod ganddyn nhw bryderon am ei ffocws ar “gynlluniau amgylcheddol sy’n anwybyddu’r angen am gynhyrchu bwyd. Nid yw ei weledigaeth yn cydnabod y rôl mae ein ffermwyr eisoes yn ei chwarae i gynnal cefn gwlad,” meddai.