Kirsty Williams (Llun y Cynulliad)
Mae Aelodau a staff y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn “rhoi drymiau diangen a sacsoffonau segur” i ysgolion ledled Cymru.

Mae’r rhoddion yn rhan o gynllun peilot ar gyfer rhaglen lawer ehangach sy’n debyg o gael ei lansio gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd.

Fe fydd honno’n creu ‘amnest offerynnau cerdd’ er mwyn annog pobol i roi eu hofferynnau cerdd segur i ysgolion sydd mewn angen.

Y Llywydd a’r maracas

Er hynny, codi offeryn newydd a wnaeth Llywydd y Cynulliad.

Wrth gefnogi’r syniad a phwysleisio pwysigrwydd offerynnau, fe ddatgelodd Elin Jones ei bod wedi chwarae’r maracas yn ddiweddar, wrth gymryd rhan yng ngherddorfa Gwasanaethau Cerdd Ysgolion Ceredigion.

“Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o fywyd; mae’n codi’r ysbryd, yn ein hadfywio ac yn ffordd o fynegi ein hunain,”meddai. “Dyna pam ei bod yn bwysig goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag chwarae.”

‘Bywyd newydd’

Mae beirniadaeth wedi bod yn ddiweddar am lai o gefnogaeth nag yn y gorffennol i wath offerynnol mewn ysgolion.

Ond ym mis Mawrth, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, ei bod yn rhoi £10,000 yn ychwanegol i bob awdurdod addysg yng Nghymru i brynu offerynnau.

Wrth drafod y cynllun newydd, fe ddywedodd ei bod yn allweddol fod plant yn gallu cael gafael ar offerynnau.

“Rydw i wedi ymroi i’r syniad os oes plentyn yn cael ei ysbrydoli i godi offeryn, beth bynnag fo’r offeryn, bod ganddo’r gallu i gael gafael ar un a datblygu ei sgiliau perfformio a chwarae,” meddai Kirsty Williams.

“Boed yn set o ddrymiau diangen neu’n sacsoffon segur, rydyn ni’n awyddus i helpu i wneud yn siŵr bod yr offerynnau hyn yn cyrraedd y bobol ifanc hynny a fyddai’n rhoi bywyd newydd iddyn nhw.”