Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn yr anghydfod lle mae staff a chleifion ysbyty yn wynebu dirwyon parcio sylweddol.

“Mae’n warthus fod rhai nyrsys nawr yn gorfod gwerthu eu cartrefi er mwyn talu am ddirwyon parcio, pan oedden nhw jest yn trio gwneud eu gwaith,” meddai Neil McEvoy.

Daw hyn wedi i farnwr ddyfarnu ei bod hi’n iawn i gwmni preifat Indigo gasglu taliadau gan staff Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

 ‘Anodd cyrraedd’

“Mae llawer o ysbytai yng Nghymru yn anodd eu cyrraedd ar gludiant cyhoeddus. Mae angen car arnoch,” meddai Neil McEvoy.

“Ac os nad oes digon o lefydd, gall y staff wastraffu oriau bob wythnos yn gwneud dim ond chwilio am rywle i barcio.

“Rwyf eisiau i’n nyrsys a’n meddygon ni ganolbwyntio ar helpu cleifion, nid ar fesurydd parcio’r ysbyty.”

Am hynny dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd i ddatrys y sefyllfa ynghyd ag edrych ar wella trafnidiaeth gyhoeddus i ysbytai ac ystyried dod â meysydd parcio ysbytai dan berchnogaeth awdurdodau lleol.