Llun: PA
Mae cyflwr nifer o garchardai yng Nghymru a Lloegr yn “frwnt ac yn warthus” yn ôl y Prif Arolygydd Carchardai, Peter Clarke.

Yn ei adroddiad blynyddol, mae’r arolygydd yn sôn lygod mewn celloedd, ac yn nodi fod carcharorion yn aml dan glo yn eu celloedd am 23 awr y dydd.

Mae hefyd yn tynnu sylw at broblemau cyffuriau ac yn nodi fod diogelwch mewn carchardai wedi gostwng oherwydd “anallu” awdurdodau i atal carcharorion rhag cael gafael ar gyffuriau.

Cyfundrefn ddiffygiol

“Mae’r problemau yma wedi dwysau o ganlyniad i ddiffyg staff mewn nifer o garchardai, sydd yn golygu nad yw hi’n bosib cynnal cyfundrefn sydd yn gweithio yn iawn,” meddai Peter Clarke.

“Pan mae carcharor yn cael ei anfon i’r carchar, mae’r wladwriaeth yn cymryd cyfrifoldeb am eu lles. Mae yna dystiolaeth glir sy’n dangos bod y wladwriaeth yn methu a gwireddu ei dyletswydd dros ormod o garcharorion.”

Sefydliadau carcharu

Mae’r adroddiad hefyd yn ymdrin â sefydliadau eraill, gan gynnwys sefydliadau i droseddwyr ifanc, sydd wedi dirywio yn “rhyfeddol o gyflym” yn ôl yr arolygwr.

Er hynny mae Peter Clarke wedi rhoi asesiadau positif i garchardai menywod, carchardai agored, a sefydliadau diogelwch uchel.