Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (Llun: Ben Birchall/PA Wire)
Yr hawl i ferched o Ogledd Iwerddon gael erthyliad am ddim yng Nghymru a chnoi cul dros Gylchffordd Cymru a gafodd sylw yn sesiwn Holi’r Prif Weinidog yr wythnos hon.
Fe ofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, i Carwyn Jones am bolisi’r Llywodraeth ar sicrhau bod merched o Ogledd Iwerddon sy’n dod i Gymru am erthyliad ddim yn gorfod talu.
Daeth cadarnhad gan y Prif Weinidog y byddai hyn yn digwydd, fel y mae Llywodraethau San Steffan a’r Alban eisoes wedi cyhoeddi.
Cylchffordd Cymru a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ariannu hanner cost y datblygiad yng Nglyn Ebwy oedd yn dal i gael sylw cornel y Ceidwadwyr a UKIP yn y Siambr.
Parc busnes technoleg fydd yn cael ei sefydlu yn yr ardal yn lle ond yn ôl Andrew RT Davies a Neil Hamilton, byddai hyn yn ddatblygiad hollol ddibwynt.
Wrth ymateb, roedd Carwyn Jones yn mynnu y byddai’r parc yn denu swyddi.
Dyma ddadansoddiad y sylwebydd gwleidyddol, Gareth Hughes, ar y cyfan.