Mae golwg360 wedi cael cadarnhad y bydd dwy swydd yn cael eu colli o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.
Mae disgwyl i swydd darlithydd y Gymraeg a swydd darlithydd Llydaweg fynd erbyn diwedd yr haf – cafodd y darlithwyr hynny wybod am y penderfyniad ddydd Gwener.
Yr wythnos ddiwethaf, cafodd golwg360 ar ddeall y bydd tair swydd yn mynd, ond mae’n debyg bod swydd yn dysgu’r Wyddeleg, a ddaeth dan grant Llywodraeth Iwerddon, yn ddiogel.
Mae Prifysgol Aberystwyth dan bwysau ariannol i ddod o hyd i arbedion.
Colli darlithwyr
Ddwy flynedd yn ôl fe adawodd chwe darlithydd yr adran ar ôl i’r mwyafrif benderfynu ymddeol neu ymddeol yn gynnar.
Ar y pryd, dywedodd y Brifysgol ei bod yn hysbysebu tair swydd newydd i sicrhau bod “cwricwlwm cyflawn” yn cael ei gynnig.
Mae’r nofelydd Robin Llywelyn, y Prifeirdd Twm Morys a Myrddin ap Dafydd, a’r ysgolheigion Ned Thomas a’r Athro Gruffydd Aled Williams wedi anfon llythyr at Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg, yn galw arno i atal Prifysgol Aberystwyth rhag torri nifer y darlithwyr.
Dywedodd Robin Llywelyn wrth golwg360 yr wythnos ddiwethaf fod ganddo fe bryderon ynghylch dyfodol yr adran a bod dileu darlithwyr yn “gam gwag enbyd” ar ran y Brifysgol.
Mynnu bod yr adran yn ddiogel
Ond mae Prifysgol Aberystwyth yn mynnu nad yw dyfodol yr adran yn y fantol.
“Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn rhan annatod o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth ac rydym yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau,” meddai’r Is-ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure yr wythnos ddiwethaf.
“Er ein bod ni fel eraill yn y sector yn wynebu heriau ariannol, rydym yn benderfynol o barhau i gynnig y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel rhan bwysig o’n darpariaeth.”