Bradley Lowery gyda'i ffrind Jermain Defoe (Llun: Peter Byrne/PA Wire)
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r “bachgen dewr”, Bradley Lowery sydd wedi marw’n chwech oed ar ôl brwydr hir â math prin o ganser.
Roedd ganddo fe gyfeillgarwch agos â’r pêl-droediwr Jermain Defoe yn y blynyddoedd ers cael gwybod ei fod e’n dioddef o niwroblastoma.
Mewn datganiad ar dudalen Facebook y teulu, dywedodd ei fam Gemma: “Mae fy machgen dewr wedi mynd gyda’r angylion heddiw 07/07/17 am 13:35, ym mreichiau mami a dadi gyda’i deulu o’i gwmpas.
“Fe oedd ein harwr bach ni ac fe frwydrodd e’n galed iawn ond roedd ei angen e yn rhywle arall.
“Does dim geiriau i ddisgrifio cymaint mae ein calonnau ni’n torri.
“Diolch i bawb am eich cefnogaeth a’ch geiriau caredig. Cysga’n dawel, bachgen bach, gan hedfan yn uchel gyda’r angylion.”
Roedd ganddo fe frawd, Kieran, hefyd.
‘Dewrder’
Dywedodd Clwb Pêl-droed Sunderland mewn datganiad ar eu gwefan: “Er iddo fe frwydro yn erbyn niwroblastoma y rhan fwyaf o’i fywyd oedd yn rhy fyr, fe ddangosodd e ddewrder a gwytnwch y tu hwnt i’w oedran oedd wedi ein darostwng ni i gyd.
“Roedd ganddo fe berthynas arbennig â Jermain Defoe ac roedd eu teimladau tuag at ei gilydd yn amlwg i bawb. Mae Jermain yn amlwg yn torri ei galon.”
Aeth Jermain Defoe i gartre’r teulu yn Swydd Durham yr wythnos diwethaf ar gyfer yr hyn oedd yn barti ffarwelio Bradley.
Roedd y chwaraewr yn ei ddagrau yn ystod cynhadledd i’r wasg ddydd Iau wrth iddo fe gael ei ddatgelu gan ei glwb newydd, Bournemouth.
‘Torri fy nghalon’
Fe greodd Bradley Lowery argraff ar holl chwaraewyr Sunderland dros y blynyddoedd, ac roedd e’n fasgot ar fwy nag un achlysur.
Dywedodd y golwr Vito Mannone ar ei dudalen Instagram: “Roeddwn i’n gobeithio na fyddai’r diwrnod hwn yn dod.
“Mae fy nghalon yn torri a does gen i ddim geiriau ond dw i am gofio dy wên anhygoel ac mae’n fraint cael cyfarfod â ti a chael y cyfle i dreulio eiliadau arbennig gyda ti, Bradley bach a dy deulu.”
Everton
Roedd gan deulu Bradley Lowery berthynas agos â Chlwb Pêl-droed Everton hefyd, ac fe wnaethon nhw gyfrannu £200,000 at ei driniaeth pan oedd e’n fasgot yn eu herbyn nhw.
Cafodd e gyfle i fod yn fasgot iddyn nhw hefyd.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Bill Kenwright: “Mae e’n un o fawrion y byd pêl-droed. Roedd yn fraint cael ei adnabod e, a byddwn ni’n teimlo’n falch am byth ei fod e wedi ein dewis ni fel ail glwb.
“Ry’n ni’n anfon ein meddyliau at ei fam a’i dad a’i deulu, a’r rhai a gafodd eu hysbrydoli ganddo fe yn y byd pêl-droed.
“Bradley Lowery. Does dim ond un Bradley Lowery.”