Mae dau gyfarwyddwr cwmni o Sir Gaerfyrddin wedi’u dedfrydu i garchar wedi’i ohirio am ddwyn dros £2.7m trwy dwyll treth a chuddio arian.
Fe geisiodd Richard John Baylis Safadi, 45, o Gaerfyrddin a Mandy Jane Galinsky, 53, o Rydaman – a oedd yn rhedeg cwmni Penybanc Car Sales Limited ac Ammanford Metal Recycling Limited – guddio’u twyll treth drwy newid enwau, swyddi cyfarwyddwyr a manylion eraill yn rheolaidd.
Fe ddarganfu ymchwilwyr fod y ddau wedi twyllo cwsmeriaid drwy godi dros £1.6m mewn TAW, er eu bod wedi talu £40,000. Yn ogystal, darganfuwyd fod y pâr wedi pocedu dros £640,000 mewn Treth Gorfforaeth a oedd yn ddyledus ar elw’r cwmnïau.
Ers dod yn filiwnydd, ni chyflwynodd Richard Safadi yr un ffurflen dreth er mwyn datgan ei incwm personol. Fe ddygodd dros £280,000 mewn treth a ddylai fod wedi’i thalu.
Roedd Mandy Galinsky wedi honni nad oedd wedi ennill ceiniog ers 2009. Mewn gwirionedd, roedd hi wedi ennill dros £500,000 a chadw’r £230,000 y dylai fod wedi’i dalu mewn treth. At ei gilydd, fe ddygodd y ddau £2,786,374 mewn treth.
Yn Llys y Goron Abertawe, dedfrydwyd Richard Safadi i ddwy flynedd o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd; a dedfrydwyd Mandy Galinsky i 10 mis, wedi’i ohirio am 18 mis.