Syr John Chilcot (Llun: PA)
Doedd y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, ddim yn “hollol ddidwyll” â’r cyhoedd o ran ei benderfyniadau tros fynd i ryfel yn Irac, yn ôl cadeirydd ymchwiliad i’r rhyfel.
Fe ddaeth sylw Syr John Chilcot yn ystod cyfweliad â’r BBC – y cyntaf iddo ei roi ers cyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad cyhoeddus y llynedd.
“Dw i’n credu bod yn rhaid i unrhyw Prif Weinidog sydd yn bwriadu mynd a’r wlad i ryfel, fod yn onest â’r genedl,” meddai yn ystod y cyfweliad. “Nid dyna beth ddigwyddodd yn sefyllfa Irac.”
Er hynny, ychwanegodd Syr John Chilcot bod y gwleidydd wedi bod dan “bwysau emosiynol sylweddol” a’i fod wedi ymdrin â’r cyhoedd mewn modd “onest yn emosiynol”.
“Gwybodaeth wallus”
Cafodd adroddiad John Chilcot ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf y llynedd a daeth i’r casgliad bod y rhyfel wedi ei ysgogi ar sail “gwybodaeth wallus”.
Yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad, dywedodd Tony Blair ei fod yn derbyn bod yna “feirniadaeth ddifrifol” ynddo, ond mynnodd bod y ddogfen yn profi “na chafodd y Senedd a’r Cabinet eu twyllo”.