Mae elusen gancr wedi tynnu sylw at ddiffyg ymwybyddiaeth ymysg menywod yng Nghymru am symptomau canser yr ofari.
Yn ôl adroddiad gan elusen Target Ovarian Cancer dim ond un o bob pump o’r menywod o Gymru a gafodd eu holi oedd yn medru adnabod un o brif symptomau’r afiechyd.
Mae’r rheiny’n cynnwys bol wedi chwyddo, anhawster wrth fwyta, poenau yn y bol a throethi yn amlach.
Yn ogystal â hyn, mae ymchwil yr elusen wedi darganfod bod traean o fenywod yng Nghymru yn ymweld â meddyg teulu dair gwaith cyn derbyn profion cancr, gan olygu fod diagnosis yn cymryd ychydig yn hirach, a bod trin yr afiechyd yn fwy anodd.
“Angen gwneud mwy”
“Er ein bod ni wedi gweld gwelliant dros y blynyddoedd diwethaf gyda newidiadau sy’n cynnwys cyflwyniad canolfannau diagnostig peilot, mae angen gwneud mwy,” meddai Prif Weithredwr Target Ovarian Cancer, Annwen Jones.
“Mae angen gwell ymwybyddiaeth o’r symptomau a newid i’r drefn fel bod menywod ddim yn gorfod ymweld â meddygon teulu sawl gwaith cyn cael profion.
“Mae angen rhoi’r gefnogaeth iawn i fenywod o ddiagnosis hyd at driniaeth o gancr yr ofari.”