Fe fydd cwest i farwolaeth dau filwr fu farw ar faes tanio yn Sir Benfro, yn agor ddiwedd yr wythnos hon.
Bu farw’r Corporal Matthew Hatfield a’r Corporal Darren Neilson, o’u hanafiadau yn dilyn digwyddiad ar safle Castell Martin ar Fehefin 14.
Roedd y ddau filwr yn perthyn i Gatrawd Frenhinol y Tanc ac wedi bod yn gweithio yn Irac am gyfnod.
Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn cafodd dau filwr arall eu hanafu’n ddifrifol yn ystod y digwyddiad ar y maes tanio.
Bydd y cwest yn agor ym Mirmingham ddydd Gwener, Mehefin 30.