Mae’r cylchgrawn dychanol Private Eye wedi ymddiheuro am ddweud bod cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd yn derbyn mwy o gyflog nag y maen nhw mewn gwirionedd.

Hynny wedi iddyn nhw honni bod aelodau cabinet a rhai sy’n cymryd cyfrifoldebau arbennig yn derbyn £13,300 yn fwy na’u cyflogau gwirioneddol.

Y camgymeriad oedd ychwanegu lwfans sylfaenol cynghorydd ar ben eu cyflogau – mewn gwirionedd, mae’r lwfans wedi ei gynnwys.

Y cefndir

Yn yr erthygl Special Plaiding (Mehefin 16-29), fe ddywedodd y cylchgrawn fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi canmol Cyngor Sir Gwynedd am wneud trefniadau i arbed £4.3 miliwn, a bod cyhoeddiad am arbedion ychwanegol gwerth £3 miliwn yng nghyllideb 2017-18 i ddod.

Mae’n sôn bod y Cyngor yn ystyried cynnig fis diwethaf yn galw ar 18 o gynghorwyr i dderbyn £3,000 o ostyngiad yn eu cyflog.

Yn ôl yr erthygl, mae arweinydd y Cyngor, Dyfrig Siencyn yn derbyn £48,000 y flwyddyn, ei ddirprwy Mair Rowlands yn derbyn £33,500, wyth o aelodau’r cabinet yn derbyn £29,000 yr un ac wyth cynghorydd arall yn derbyn “lwfans cyfrifoldebau arbennig” o £22,000 ar ben eu cyflog o £13,300.

Mae’r erthygl yn dyfynnu cynghorydd anhysbys, sy’n dweud bod y cynghorwyr yn “gofalu am eu pocedi eu hunain”.

Wrth gyfeirio at “bleidlais”, mae’r erthygl yn dweud bod y cynnig i ostwng y cyflogau wedi’i wrthod, gan ychwanegu bod y cyngor wedi cymeradwyo y gallai 75 o aelodau dderbyn £100 ychwanegol yr un.

Ymddiheuriad

Ond yn y rhifyn diweddaraf o Private Eye (Mehefin 30-Gorffennaf 13), mae’r cylchgrawn yn cyfaddef fod yr erthygl yn gamarweiniol.

Maen nhw’n nodi bod yr erthygl wreiddiol yn dweud bod y lwfans “ar ben y lwfans sylfaenol o £13,000”.

Ond wrth egluro’r sefyllfa, maen nhw’n dweud bod y ffigurau’n gyfuniad o’r cyflog sylfaenol a’r lwfans gyda’i gilydd.

“Ymddiheuriadau,” meddai’r erthygl.