Mae dyn wedi’i gludo i’r ysbyty, yn dilyn gwrthdrawiad yn Ynys Môn.
Fe ddaeth cadarnhad fod y ddamwain wedi digwydd ddiwedd pnawn dydd Mawrth (Mehefin 27), wedi gwrthdrawiad rhwng cerddwr a cherbyd ym Mhentre Berw ger y Gaerwen.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 5.50yp, wedi i gerbyd Vauxhall Astra lliw arian daro dyn yn ei 40au.
Fe gafodd y gwr hwnnw ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, meddai datganiad yr heddlu, lle mae’n derbyn triniaeth i anafiadau difrifol sy’n mynd i newid ei fywyd.
Mae Heddlu Cymru yn apelio am dystion.