Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru
Mae Leanne Wood wedi ymateb i ddadl frys a alwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cytundeb rhwng llywodraeth Geidwadol San Steffan a’r DUP.

“Fe ddylai pobl yng Nghymru deimlo mwy na rhwystredigaeth gyda’r cytundeb hwn, fe ddylent fod yn ddig,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn siambr y Senedd ym Mae Caerdydd.

“Y wlad hon sydd wedi creu’r lleiaf o dwrw. Ni fu’r tawelaf a’r mwyaf parchus o holl genhedloedd y Deyrnas Gytunol – a chanlyniad hynny fu i ni gael ein gadael ar ôl.”

Galwodd ar i arweinwyr y pleidiau Cymreig dderbyn nad oedd y Deyrnas Gyfunol yn gweithio i Gymru, ac i ystyried sut y gellid ‘symud y wlad i fyny’r ysgol’.

“Rhaid i ni fod yn onest… dyw’r Deyrnas Gyfunol ddim yn gweithio drosom,” meddai Leanne Wood wedyn.

“Y cam cyntaf yw cyfaddef nad yw system San Steffan, yn cyflawni dros Gymru; ei bod yn cosbi Cymru.

“Unwaith i ni gyfaddef hynny, dylem edrych o ddifrif ar y camau nesaf i Gymru, a defnyddio’r holl ddylanwad sydd gennym fel pleidiau gwleidyddol i sicrhau y bydd Cymru’n dringo’n uwch i fyny’r ysgol.”