Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar y Ceidwadwyr i gefnogi gwelliant i Araith y Frenhines er mwyn rhoi terfyn ar fesurau llymder i’r gwasanaethau brys.
Dywedodd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn y byddai ymateb y Llywodraeth yn brawf o’u hymrwymiad i roi’r gorau i lymder wrth iddyn nhw awgrymu eu bod nhw am roi hwb i wariant cyhoeddus.
Mae’r gwelliant yn galw am roi terfyn ar doriadau i’r heddlu a’r gwasanaeth tân ac yn canmol eu hymateb i’r ymosodiadau brawychol diweddar, ynghyd â thân Tŵr Grenfell.
Mae hefyd yn galw am recriwtio rhagor o ddifoddwyr tân a phlismyn, ac yn galw am ddileu’r cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus.
Ond mae’n annhebygol y bydd y Ceidwadwyr yn cefnogi’r gwelliant i raglen y llywodraeth am y ddwy flynedd nesaf.
Tro pedol?
Ar ôl etholiad siomedig i’r Ceidwadwyr, mae’r Canghellor Philip Hammond wedi awgrymu y gallai’r llywodraeth wneud rhywfaint o dro pedol ar lymder.
Mae’r Ceidwadwyr hefyd dan bwysau ychwanegol i gefnu ar lymder ar ôl dod i gytundeb â phlaid Wyddelig y DUP i’w cynnal wrth iddyn nhw ffurfiol llywodraeth leiafrifol.
Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau eu bod nhw’n derbyn yr un faint o arian â Gogledd Iwerddon.
Mae undebau’r gwasanaethau brys yn cefnogi galwad y Blaid Lafur.
Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi amddiffyn gwariant y blaid ar y gwasanaethau brys ac Araith y Frenhines.