Cynllun Parc Gwyddoniaeth Menai
Mae Prifysgol Bangor yn dweud fod “nifer” o gwmnïau a phrosiectau wedi dangos diddordeb mewn bod yn rhan o ddatblygiad Parc Gwyddoniaeth newydd ym Môn – ond dydyn nhw ddim yn fodlon dweud faint yn union ar hyn o bryd.
Fe gyhoeddodd golwg360 ym mis Ebrill y byddai Ieuan Wyn Jones yn gadael ei rôl yn Gyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, pa un a fyddai’n ennill sedd Ynys Môn yn yr etholiad brys ar Fehefin 8 ai peidio.
Fe fu yn ei swydd ers 2013, pan adawodd y Cynulliad i ymgymryd â’r rôl newydd.
Dywedodd Prifysgol Bangor wrth golwg360 bryd hynny mai ei fwriad oedd camu o’r neilltu “pan fydd y parc yn dod yn weithredol yn ystod y misoedd nesaf”. Ond wnaethon nhw ddim dweud a fydden nhw’n hysbysebu ei swydd.
Gadael ei swydd
“Yn unol â’r hyn a ddywedwyd yn y datganiad blaenorol, bwriad Mr Jones yw rhoi’r gorau i’w swydd fel Cyfarwyddwr pan fydd y parc gwyddoniaeth yn weithredol,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Bangor wrth golwg360 heddiw.
“Mae’r parc yn parhau i fod ar amser ac, ar hyn o bryd, yn trafod gyda nifer o gwmnïau a phrojectau ymchwil sydd wedi mynegi awydd i symud i’r parc pan fydd yr adeilad cyntaf yn barod yn 2018.
“Bydd cyhoeddiadau ynghylch pa gwmnïau fydd yn symud i’r parc yn cael eu gwneud yn y man.”
O ran dyfodol Ieuan Wyn Jones, meddai’r Brifysgol: “Bydd Mr Jones yn trafod gyda’r Brifysgol ynghylch union ddyddiad diwedd ei gyfnod fel Cyfarwyddwr y Parc Gwyddoniaeth, a bydd datganiad yn cael ei ryddhau i’r perwyl hwnnw maes o law.”
Y parc
Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r parc ger pentref y Gaerwen ddiwedd mis Hydref y llynedd, gyda chyhoeddiad y gallai greu hyd at 720 o swyddi newydd yn yr ardal.
Nod y prosiect, a fydd yn derbyn cyllid o £10.8m gan Lywodraeth Cymru, yw creu safle i “sicrhau cyfleoedd gwaith o safon uchel” a “chreu cysylltiad rhwng cwmnïau arloesol a Phrifysgol Bangor.”
Yn dilyn derbyn y caniatâd cynllunio llawn, mae disgwyl i’r gwaith adeiladu orffen yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18.