Tim Kevin Brennan yn dathlu
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd, a gafodd ei fwyafrif fwyaf yn yr Etholiad Cyffredinol hwn yn dweud y bydd yn bosib y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog gamu o’r neilltu.

Yn ôl Kevin Brennan, camgymeriad oedd galw’r etholiad ac y gallai Theresa May dalu’r pris am hynny.

“Dw i’n meddwl y gwnaeth Theresa May gamgymeriad mawr, efallai nawr y bydd yn rhaid iddi ymddeol o ganlyniad i hynny,” meddai.

“Roedd yn gynllun sinigaidd iawn i alw’r etholiad a dw i’n meddwl bod y cyhoedd wedi gweld drwy hwnna.

“Fe wnaethon nhw estyn allan am rywbeth mwy gobeithiol yn hytrach na’r weledigaeth lom o Brexit caled a’r rhaglen o lymder y mae Theresa May wedi’i chyflwyno, ry’n ni wedi gweld nad yw hynny wedi gweithio.”

Ar ôl dal gafael ar ei sedd, talodd deyrnged i’w ragflaenydd, Rhodri Morgan, a bu farw ychydig wythnosau yn ôl.

Roedd Rhodri Morgan wedi lansio ymgyrch Kevin Brennan yn yr etholiad hwn a dywedodd fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd hebddo.

“Llafur eisiau bod mewn Llywodraeth”

Wrth sôn am y darlun ehangach ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, dywedodd fod hi wedi bod yn “noson wych” a’i fod yn gobeithio y bydd gan y blaid digon i ffurfio llywodraeth.

Ond o ran cydweithio gyda phleidiau eraill, dywed Kevin Brennan mai penderfyniad i Jeremy Corbyn yw hynny.

“Bydd Llafur wastad am fod mewn Llywodraeth, ar hyn o bryd dyw hynny ddim yn rhywbeth i fi ddewis, penderfyniad yr arweinyddiaeth fydd ar y camau nesaf,” meddai.

“Y peth pwysicaf yw ein bod ni’n ceisio gwneud popeth ag y gallwn i sicrhau bod ein gweledigaeth dros Brydain, y weledigaeth dros obaith a gwrth-lymder a ffydd mewn gwasanaethau cyhoeddus a phwysigrwydd tyfu’r economi, yn gryf.”