Craig Williams
Mae’r Ceidwadwr a gollodd ei sedd yn annisgwyl i’r Blaid Lafur yng Ngogledd Caerdydd wedi dweud ei fod am gysgu cyn ystyried beth aeth o’i le yn ei ymgyrch.

Dywedodd Craig Williams nad oedd yn gwybod yn iawn eto pam nad oedd wedi llwyddo i ddal gafael ar ei sedd ar ôl ei chipio oddi ar Lafur yn 2015.

“Dw i’n mynd i gysgu arno ac wedyn ry’n ni’n mynd i feddwl yn galed amdano, yn amlwg roedd y turn out yn uchel iawn ac mae’n rhaid bod symud wedi bod ar y bleidlais honno,” meddai

“Cafodd yr ymgyrch ei frwydro ar ymgyrch dros Brexit mewn sedd a bleidleisiodd i aros.”

Er iddo golli ei sedd, doedd e ddim yn credu bod penderfyniad Theresa May i gynnal etholiad cyffredinol brys wedi bod yn un ffôl.

“Na, roedd yn benderfyniad dewr i geisio cael mandad, a gewn ni weld os bydd hynny’n digwydd. Rwy’n teimlo’n flin dros y Prif Weinidog nad oeddwn i’n gallu sicrhau’r canlyniad yna iddi hi.”

Anna McMorrin a gipiodd y sedd oddi wrtho dros y Blaid Lafur gyda mwyafrif o 26,081 a’r Ceidwadwyr yn ail ar 21,907.