Mae Llafur wedi dal gafael ar ei sedd yng Nghanol Caerdydd gan fwy na threblu ei mwyafrif.

Cafodd Jo Stevens 25,193 o bleidleisiau, yn ail oedd y Ceidwadwyr â 7,997.

Bu’n noson siomedig i’r Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl i’w hymgeisydd, Eluned Parrott, sy’n cyn Aelod Cynulliad, fynd i lawr i’r trydydd safle gyda 5,415 o bleidleisiau – bu’r blaid yn dal gafael ar y sedd hon tan yr etholiad diwethaf, dwy flynedd yn ôl.

“Heb os yng Nghymru, mae Llafur wedi arwain y ffordd a dw i mor hapus i weld cymaint o fy nghyd-weithwyr yn dychwelyd heno a hefyd croesawu cydweithwyr newydd i San Steffan,” meddai Jo Stevens wrth golwg360.

Uno y tu ôl i Corbyn

Roedd hefyd yn ffyddiog y byddai Llafur yn gallu uno y tu ôl i Jeremy Corbyn wedi’r canlyniadau ffafriol dros y blaid ledled y wlad.

“Rydym yn blaid sydd ag amrywiaeth o safbwyntiau, rydym yn blaid ddemocrataidd a gallwn ddod allan heno gyda’n pennau’n uchel a gweld beth sydd o’n blaenau ni.”