Mae’r cyhoeddi yng Nghaerdydd wedi dechrau a hynny yn Saesneg yn gyntaf, er bod y Cyngor wedi addo mai’r Gymraeg fydd yn cael ei darllen yn gyntaf.

Yn dilyn pwysau gan ymgyrchwyr, fe ysgrifennodd Swyddog Canlyniadau’r Cyngor at Gymdeithas yr Iaith yn dweud mai’r Gymraeg fydd i’w chlywed yn gyntaf wrth gyhoeddi canlyniadau’r pedair etholaeth yn y brifddinas.

Ond wrth gyhoeddi ‘turn-out’ etholaethau Gorllewin a Gogledd Caerdydd, yn Saesneg roedd y cyhoeddiadau yn gyntaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd wrth golwg360 mai dim ond y ‘gwiriadau’ fydd yn Saesneg yn gyntaf, hynny yw cyhoeddi’r ‘turn out’, ond bydd y canlyniadau yn Gymraeg yn gyntaf.

Pan holwyd pam mai hyn oedd y drefn, ateb y llefarydd oedd ‘Dw i ddim yn gwybod.’