Roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn edrych dan bwysau wrth iddo alw heibio’r cyfrif yng Nghaerdydd heno.

Roedd y pôl piniwn ar ôl i’r pleidleisio gau yn awgrymu y gallai fwyafrif y Ceidwadwyr leihau yn Nhŷ’r Cyffredin, ac na fyddai’n ddigon i ffurfio Llywodraeth.

Yn ei hwyliau arferol, cyn cael ei gyfweld â’r wasg, dechreuodd ganu clasur Frank Sinatra, My Way – ‘And now the end is near, and so I pull the final curtain’.

Ond a yw hi’n ddiwedd ar gyfnod Andrew RT Davies wrth y llyw yng Nghymru? Atebodd yn ddigon pendant ei fod hyderus y bydd yn parhau i arwain y blaid wedi’r etholiad.

Bostio’r Ceidwadwyr Cymreig

“Dydyn ni heb gael unrhyw ganlyniadau caled eto, ond yr hyn ry’n ni’n gwybod yw bod ein hymgeiswyr wedi bod yn ymgyrchu wedi canlyniadau da iawn yn yr etholiadau lleol fis yn ôl,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r polau piniwn yn dangos na fydd yn noson dda iawn i’r cenedlaetholwyr – Plaid Cymru – na’r Rhyddfrydwyr, ac mae hynny i’w weld wedi rhoi’r bleidlais i’r Blaid Lafur.

“Ond dewch i ni gael aros a gweld sut mae pethau’n datblygu dros nos, ond un peth dw i’n meddwl sy’n eitha’ clir, roedden ni’n rhedeg ymgyrchoedd llywodraeth leol llwyddiannus yng Nghymru.

“Pan mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn rhedeg ymgyrchoedd lleol, r’yn ni’n gwneud hynny’n dda iawn.”