Tomos Dafydd Davies, Ymgeisydd Ceidwadol Môn (llun o wefan Prifysgol Bangor)
Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Môn wedi ymateb yn ffyrnig i honiad gan yr AC Adam Price mai pleidlais i Blaid Cymru yw’r unig ffordd i atal Cymru rhag diflannu’n wleidyddol.
“Mae’r ymosodiad hwn gan un o hoelion wyth y Blaid yn ymosodiad diog, di-sail, ac yn sarhad personol ar Gymro Cymraeg balch,” meddai Tomos Dafydd Davies.
“Rwy’n Gymro balch ac yn ddatganolwr pybyr. Rwyf wedi brwydro ar hyd fy oes i gryfhau statws gwleidyddol Cymru fel cenedl ac i ddiogelu’r iaith Gymraeg.
“Mae’r Gymraeg yn ran annatod o fy mhersenoliaeth, ac yn greiddiol i’r holl benderfyniadau dwi’n gwneud ym mywyd cyhoeddus.”
‘Dim monopoli’
“Does gan Blaid Cymru ddim monopoli dros genedligrwydd Cymreig,” meddai.
“Dyma dystiolaeth bellach fod Plaid Cymru yn cymryd pleidlais y Cymry Cymraeg yn ganiataol. Fy apel personol i eleni yw i gefogwyr y Blaid fenthyg eu pleidleisiau a chefnogi Cymro balch fydd â dylanwad oddi fewn i’r Llywodraeth Geidwadol. Dim ond sgrechian o’r cyrion y gall Ieuan Wyn Jones a Phlaid Cymru.”