Hen ddesg Cadarog Prichard yn ei chartref newydd yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda
Fe gafodd hen ddesg Caradog Prichard, awdur y nofel enwog Un Nos Ola Leuad, ei chyflwyno i’w hen ysgol neithiwr.
Fe deithiodd merch yr awdur, Mari Prichard, o Rydychen i gyflwyno’r ddesg y sgrifennodd yr awdur Un Nos Ola Leuad arni, i Ysgol Dyffryn Ogwen ym Methesda.
Desg swyddfa draddodiadol yw hi gyda phlat yn dynodi ei bod wedi cael ei phrynu ar Stryd y Fflyd (Fleet Street) yn Llundain.
Er i Garadog Prichard gael ei eni ar Allt Pen-y-bryn ym Methesda, treuliodd hanner ei oes yn newyddiadurwr ar Stryd y Fflyd – fe fu’n gweithio i’r Daily Telegraph o 1946 tan ei ymddeoliad yn 1972.
“Mae o’n un o gyn-ddisgyblion enwoca’r ysgol,” meddai’r Pennaeth Alun Llwyd. “Mae rhywbeth neis am gael y ddesg yn ôl yma.”
Rhagor am y stori hon yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.