Maes 2016 - llai o gystadleuwyr, meddai'r beirniaid (Llun: golwg360)
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi gwrthod honiadau bod newidiadau i reolau eu cystadlaethau canu wedi arwain at gwymp yn y nifer sy’n cystadlu.
Yn ystod Eisteddfod y Fenni y llynedd fe gafodd categorïau eu cyfuno gan gael gwared ar gystadlaethau’n benodol i rai dros 25 oed – yn ôl rhai mae hynny’n lleihau gobeithion cantorion amatur hŷn.
Yn ôl grŵp ‘Tegwch i Gystadleuwyr dros 25’ a oedd wedi sefydlu deiseb yn mis Awst y llynedd, fe fu cwymp yn y nifer o gystadleuwyr yn 2016 o ganlyniad i’r newidiadau – er enghraifft, fe hanerodd y niferoedd o gystadleuwyr ar gyfer categori bas/bariton.
“Dim chwarae teg”
Mae un o aelodau Cyngor yr Eisteddfod wedi galw am sefydlu categorïau ar gyfer cantorion sy’n dilyn galwedigaethau eraill.
Yn ôl Trystan Lewis, mae cantorion amatur yn meddwl dwywaith am gystadlu bellach, oherwydd dan y rheolau newydd mae modd i gantorion proffesiynol ifanc herio cantorion amatur rhan amser.
“Dw i’n dysgu tua naw neu ddeg o bobol sy’n mynd i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni sydd yn amaturiaid,” meddai wrth golwg360. “Ffermwyr a gyrwyr bysys ac ati. Be maen nhw’n teimlo ydi nad oes yna ddim chwarae teg.
“Ers talwm, oedd yna lawer mwy o amaturiaid nag oedd yna o bobol broffesiynol. Ac mae wedi newid,r oherwydd mae mwy o bobol ifanc yn mynd yn broffesiynol.”
Ar gynnydd
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi amddiffyn y newidiadau gan nodi bod y nifer sy’n bwriadu cystadlu wedi cynyddu eleni, ac maen nhw’n mynnu eu bod yn cynorthwyo cantorion amatur.
Gan eithrio cystadlaethau’r Unawd Lieder a’r Unawd Mezzo-soprano/Contralto/Gwrth-denor, mae nifer y cystadleuwyr tebygol wedi cynyddu ym mhob cystadleuaeth canu 25 oed a throsodd eleni, medden nhw.
“Ein bwriad yw cefnogi, helpu ac annog cystadlu yn y cystadlaethau canu dros 25 oed yn yr Eisteddfodau lleol, a hefyd felly yn y Genedlaethol,” meddai Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Elen Huws Elis wrth golwg360.
“Ryden ni wedi cynnal tri gweithdy canu ‘Ffatri Llais’ (De, Canolbarth a Gogledd), i gantorion 25 oed a throsodd, mewn partneriaeth efo Eisteddfodau Cymru a Tŷ Cerdd. Ryden ni hefyd wedi cynnig adnodd gwerthfawr iawn i’n cantorion – ac mae’r adborth yn bositif iawn – sef cyfeiliannau ein darnau gosod i gyd.”