Y parlwr ar ei newydd wedd (Golwg - Non Tudur)
Fe fydd rhaid trefnu ymlaen llaw cyn ymweld â chartref y bardd Hedd Wyn – am fod y rheolwyr yn disgwyl rhuthr o ddiddordeb wrth i’r ffermdy ailagor i’r cyhoedd.
Fe gafodd y wasg gip ar yr Ysgwrn ar ei newydd wedd, cyn i’r tŷ yn Nhrawsfynydd agor eto ar Fehefin 6, ar ôl cael ei drosglwyddo i ddwylo Parc Cenedlaethol Eryri.
Gan fod cynifer o grwpiau ac ysgolion wedi archebu lle at fis nesaf mae Awdurdod y Parc yn gofyn i bobol gysylltu ymlaen llaw rhag ofn iddyn nhw gael eu siomi.
“Mi fyddwn ni’n brysur iawn yn ystod mis Mehefin,” meddai Sian Griffiths, Rheolwr Project yr Ysgwrn. “Os oes yna unigolion neu deuluoedd eisie dod draw, rydan ni’n gofyn iddyn nhw roi caniad i ni yn y bore i wneud yn siŵr bod yna le y diwrnod hwnnw yn lle bod pobol yn cael siom.”
Gweddnewid
Mae cadwraethwyr a staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gweddnewid hen gartref y bardd a gafodd ei ladd ym mrwydr Passchendaele ganrif yn ôl, a’i droi yn gyrchfan ymwelwyr ac yn amgueddfa.
Cafodd yr Awdurdod £3,081,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i wneud y gwaith, a hynny ar ôl i nai’r bardd, Gerald Williams, groesawu ymwelwyr yno yn anffurfiol ar hyd y blynyddoedd.
Y penwythnos yma roedd yna agoriad arbennig i berthnasau’r bardd. Bydd yr agoriad swyddogol ar Fedi 6, union gan mlynedd ers seremoni’r Gadair Ddu yn Eisteddfod Penbedw 1917 – Hedd Wyn oedd wedi ennill ond roedd wedi ei ladd ychydig ddyddiau cyn yr eisteddfod.
Taith y tŷ
Yr adeilad cyntaf fydd y cyhoedd yn mynd iddo yw’r ‘Beudy Llwyd’ ger y maes parcio, lle bydd cyfle i ddysgu am stori Hedd Wyn a’r diwylliant Cymraeg cyn cerdded lan y rhiw at yr Ysgwrn. “Ry’n ni’n gallu defnyddio Hedd Wyn fel bachyn i rannu’r hanes ehangach,” meddai Sian Griffiths.
Fe fydd caffi a thoiledau yn y Beudy Llwyd a chofroddion bach arbennig ar gael yn y siop cyn diwedd yr haf. Doedd y lle ddim yn gwbl orffenedig – roedd dynion yn gosod tyweirch y tu fas i’r adeiladau ac nid oedd y dderbynfa yn ei lle eto.
Yn y ‘Beudy Tŷ’ wrth ochr y tŷ mae cyfle i glywed hanes colledion y Rhyfel Mawr trwy gyfrwng ffilm , a leisir gan Ifor ap Glyn. Ar y mur mae lluniau 30 o ddynion ifanc Trawsfynydd – gan gynnwys Hedd Wyn – a gafodd eu lladd yn y Rhyfel.
Yn yr Ysgwrn ei hun, mae creiriau’r gegin a’r cadeiriau wedi cael eu glanhau ac wal y parlwr wedi cael ei hailbapuro â chopi papur yr un ffunud â rhai o 1916. Mae posib dringo’r grisiau (mae lifft hefyd o’r cefn) a gweld y llofft a rannai Hedd Wyn â’i frodyr, lle mae tair o’i gadeiriau eisteddfod wedi cael eu rhoi.
Mae Cadair Ddu Penbedw wedi cael stafell ar ei phen ei hun lawr staer ar ôl cael ei hadfer yn fanwl gan grefftwr o Sir Gâr.
Cost mynediad fydd £5.75 i oedolion, £4.50 i’r rheiny sydd wedi ymddeol, a £3 i blant.
Bydd rhagor o luniau a stori lawn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos nesa’.