Traeth Llangrannog, Llun: Cyngor Ceredigion
Mae’r nifer uchaf erioed o Faneri Glas wedi cael eu gwobrwyo i safleoedd yng Nghymru.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi enillwyr y Gwobrau Arfordir, sy’n cynnwys 98 o safleoedd a chyfanswm o 160 o wobrau i gyd.
Yn ogystal â’r Faner Las, mae lleoedd ledled y wlad wedi cael Gwobr Arfordir Glas a Gwobr Glan Môr.
Ac ar ben y 45 o draethau, roedd tri marina a dau gwmni teithiau cychod wedi ennill Gwobr ryngwladol y Faner Las hefyd.
Blue Ocean Adventures yn Nhŷ Ddewi a Ribride ym Mhorth Daniel, Ynys Môn, yw’r cwmnïau teithiau cychod cynaliadwy cyntaf yn y DU i gael statws y Faner Las.
Mae 25 o draethau eraill yng Nghymru wedi cael y Wobr Arfordir Glas – sydd yn cydnabod y ‘trysorau cudd’ ar hyd ein harfordir – ac mae cyfanswm o 85 o draethau wedi cael y Wobr Glan Môr am ansawdd da eu dŵr a’u cyfleusterau.
“Hwb i’r economi”
“Rydym i gyd yn gwybod bod arfordir Cymru gyda’r mwyaf trawiadol yn y byd,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
“Mae ein traethau a’n hardaloedd arfordirol wedi denu ymwelwyr o bell ac agos ers amser ac maent yn boblogaidd iawn mewn cymunedau lleol.
“Mae’r ffaith fod 50 o safleoedd bellach yn hedfan y Faner Las a bod 98 o safleoedd i gyd wedi cael eu cydnabod am ansawdd eu dŵr a’u cyfleusterau yn newyddion rhagorol. Gall hyn ond cael effaith gadarnhaol ar dwristiaeth ac, yn ei dro, rhoi hwb i’r economi.”