Yn ôl arolwg barn a gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas yr Iaith, mae’r mwyafrif o bobol Cymru am weld materion darlledu yn cael eu datganoli o Lundain i Gaerdydd.

1,000 o bobol a gafodd eu holi gan YouGov ac mae’r canlyniadau’n dangos bod 52% ohonyn nhw naill ai yn “cefnogi’n gryf” neu’n “tueddu i gefnogi.”

27% oedd yn “gwrthwynebu’n gryf” neu’n “tueddu i wrthwynebu” datganoli darlledu, ac roedd 21% ddim yn gwybod.

Mae’r arolwg yn dangos hefyd bod y gefnogaeth i ddatganoli’r maes ar ei chryfaf ymysg y rhai a bleidleisiodd dros Lafur [61%], y Democratiaid Rhyddfrydol [62%] a Phlaid Cymru [83%] yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2015.

Gwrthod talu’r drwydded

Mae hanner cant o bobol wedi penderfynu gwrthod talu eu trwyddedau teledu fel safiad o blaid  datganoli grym dros ddarlledu i Gymru.

Yn eu plith y mae Emyr Llywelyn, ynghyd â Chadeirydd presennol Cymdeithas yr iaith Gymraeg, Heledd Gwyndaf.

“Mae’n galonogol iawn gweld bod cefnogaeth gref i’r ymgyrch. Dylai penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Rydyn ni wedi cael hen ddigon o Aelodau Seneddol yn Llundain nid yn unig yn gwneud toriadau i’r cyfryngau Cymraeg, ond hefyd yn teyrnasu dros system sy’n rhoi cyn lleied o sylw i faterion Cymreig a chyfryngau nad ydynt yn adlewyrchu bywydau pobl yng Nghymru.

“Felly, rydyn ni’n pwyso am ddatganoli’r pwerau hyn nid er lles y Gymraeg yn unig, ond er lles democratiaeth Cymru hefyd. Mae diffyg cynnwys Cymreig a Chymraeg ar y cyfryngau yn bygwth parhad datganoli, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater.”

Cymharu â gwledydd eraill

Dywedodd Heledd Gwyndaf fod darlledu wedi’i ddatganoli i wledydd fel yr Alban, Gwlad y Basg a Chatalwnia, gan alw am yr un peth i Gymru.

“Mae eu cyfryngau nhw yn llawer iawn mwy datblygedig o ganlyniad – gyda sawl sianel deledu a gorsaf radio eu hunain. Gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r pwerau deddfwriaethol ac ariannol yn y maes i normaleiddio cynnwys Cymraeg a chynnwys am Gymru.

“‘Sdim ond angen edrych ar y sianel deledu leol newydd ’Made in North Wales’, gyda’i phencadlys yn Lerpwl yn darlledu dim ond 3% o’r allbwn yn Gymraeg a 16% ohono’n lleol, i weld y broblem.

“Ddylai’r awdurdodau ddim caniatáu i hyn ddigwydd – gyda difaterwch San Steffan, datganoli yw’r unig ateb.”

Mae disgwyl adolygiad erbyn diwedd y flwyddyn ar ddyfodol ariannu S4C a allai fod yn gyfle i godi’r cwestiwn ar ddatganoli, meddai is-ysgrifennydd Swyddfa Cymru, Guto Bebb, yr wythnos ddiwethaf.

Doedd Swyddfa Cymru ddim am ymateb i’r arolwg gan ei fod yn gyfnod etholiad ond fe gyfeiriodd y llefarydd at adroddiad y Comisiwn Silk, sy’n nodi y dylai rheoleiddio darlledu barhau’n gyfrifoldeb i Lywodraeth San Steffan.