Jeremy Miles, AC Llafur, a gafodd ei ethol yn 2016
Bydd un o Aelodau mwyaf newydd y Cynulliad yn cofio’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, fel un o “fel un o gymwynaswyr mawr gwleidyddiaeth y genedl ac un o benseiri y Cynulliad”.
“Roedd e’n wleidydd unigryw iawn, cyfuno bod yn ddeallus tu hwnt – un o’r deallusion mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru, gyda hefyd elfen gyffredin â phobol, y gallu i uniaethu â phobol o bob cwr,” meddai Jeremy Miles.
Atgofion ymgyrchu
Cafodd Jeremy Miles ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd yn 2016, ac mae’n cofio Rhodri Morgan yn dod i’w helpu i lansio ei ymgyrch.
“Fi’n cofio pan wnaeth e gymwynas fawr â fi a dod i helpu i lansio fy ymgyrch i fan hyn yng Nghastell-nedd ar fyr rybudd.
“Fe ddaeth e a cherdded gyda fi drwy strydoedd Castell-nedd ac roeddwn i’n synnu bod pawb yn ei adnabod e a phawb eisiau ysgwyd llaw ag e ac yn barod i gael sgwrs a fe yn hel straeon ac atgofion gyda nhw fel tasai fe’n ei adnabod nhw i gyd hefyd.
“Bydd ei golled e yn golled fawr i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.”