Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyfrannu at ymchwil am falwoden sydd yn lladd cannoedd o filoedd o bobol bob blwyddyn.
Pob blwyddyn mae 200,000 yn marw o glefyd sy’n cael ei achosi gan y parasit – schistosomiasi – sy’n cael ei drosglwyddo gan y falwoden ddwr. Ar hyn o bryd mae 600 miliwn o bobol yn Affrica, Asia a De America wedi eu heintio.
Gan amlaf mae pobol yn cael eu heintio wrth ymolchi, chwarae, nofio, golchi, pysgota neu gerdded trwy ddŵr sydd wedi ei heintio gan y parasit sydd wedi’i ryddhau o’r falwoden ddŵr.
Mae’r ymchwilwyr wedi llwyddo nodweddu genom y falwoden Biomphalaria glabrata sydd yn golygu bod gwyddonwyr cam yn agosach at fedru rheoli’r haint.
“Mae’r canfyddiadau hyn yn agor y posibilrwydd o reoli schistosomiasis drwy annog neu beiriannu’r microbau naturiol hyn fel eu bod yn troi yn erbyn y falwen, a thrwy hynny leihau nifer y malwod a faint o’r parasit sy’n cael ei drosglwyddo mewn ardaloedd rhemp,” meddai aelod o’r tîm ymchwil yr Athro Karl Hoffmann.