Llun: PA
Mae pobol gwledydd Prydain ymysg yr yfwyr mwyaf yn y byd, yn ol ystadegau.
Yn ystod 2016, fe yfodd y dyn cyffredin yng ngwledydd Prydain bron iawn i ddwbwl cyfartaledd unigolyn ledled y byd.
Mae ffigurau gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dangos fod pobol dros 15 oed, ar gyfartaledd, wedi yfed 6.4 litr o alcohol pur y llynedd.
Ond, ar gyfartaledd, fe yfodd pobol gwledydd Prydain 12.3 litr y llynedd – sef tua’r un faint â phobol Hwngari, Latfia, Pwyl a Slofacia.
Mae’r ffigurau yn dangos ystadegau yn ymwneud â iechyd 194 o aelodau’r WHO, ac yn dangos mai dim ond 11 o aelodau sydd yn yfed mwy na gwledydd Prydain – sef Estonia, Wcrain, Belg, Belg, Bwlgaria, Croatia, Y Weriniaeth Tsiec, Romania, Rwsia, Moldofa, Belarws a Lithwania.
Pobol Lithwania, yn ol yr ystadegau, yw yfwyr mwyaf y byd, yn llyncu 18.2 litr o alcohol yn ystod 2016.